Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynhyrchu bwyd - hylendid

Mae cynnal a chadw bwydydd diogel i'r defnyddwyr o'r cannoedd o allfeydd adwerthu, arlwyo a manwerthu yn y fwrdeistref yn gynhwysyn hanfodol.

Mae'r awdurdod yn cadw cofrestr o'r holl fasnachwyr bwyd a bydd pob un yn cael ei arolygu heb rybudd ymlaen llawn, er mwyn sicrhau bod eu harferion yn hylan a bod rheoliadau digonol ar waith i atal halogi gyda chyrff estron neu facteria niweidiol. Mae'r gofynion hyn yn berthnasol i'r holl safleoedd o arlwywr cartref i faniau hufen iâ a ffatrïoedd bwyd i ffreuturau gweithle a'r holl allfeydd adwerthu gan gynnwys tafarndai a chlybiau. Os hoffech gofrestru eich safle, cliciwch i lawr lwytho ffurflen gofrestrusafle bwyd.

Mae'n ofynnol i bawb sy'n trin bwyd gael rhywfaint o hyfforddiant mewn trin bwyd yn ddiogel, hylendid personol, twf bacterial a rheoli tymheredd.  Mae cyngor ar ddeddfwriaeth a'r angen am ddarpariaethau penodol yn ystod ailwampio safleoedd newydd neu rai presennol ar gael bob amser.

Mae nifer o gyhoeddiadau ar gael i helpu busnesau lleol a thrigolion gyda materion yn ymwneud a diogelwch bwyd.

Bob blwyddyn, mae'r isadran yn derbyn nifer o gwynion gan y cyhoedd am fwydydd sydd, mae'n debyg, wedi'u halogi ac ymchwilir i bob un o'r rhain, yn aml gyda chyngor gan yr awdurdod lleol lle cynhyrchir y bwyd, i geisio sicrhau nad yw'r halogiad yn digwydd eto yn y dyfodol. Er mwyn canfod ansawdd y bwyd sy'n cael ei werthu yn y fwrdeistref, mae swyddogion yn cyflwyno cannoedd o samplau fwyd a gafwyd ar hap yn gyson i'r Gwasanaeth Labordai Iechyd y Cyhoedd i'w brofi am halogiad, a lle mae problemau'n codi, bydd yr achos yn cael ei ymchwilio a'i ddatrys.

Os ydych am gysylltu â ni ynglŷn â bwyd o safon anfoddhaol a brynwyd ym Merthyr Tudful neu i roi gwybod i ni am safleoedd bwyd sy'n methu â chynnal safon foddhaol o hylendid, cysylltwch â ni.

Mewn cydweithrediada â'r cydweithwyr yn Safonau Masnach, mae'r is-adran hefyd yn ymdrin â rhybuddion bwyd cenedlaethol i sicrhau fod bwyd peryglus wedi'i gynhyrchu mewn man arall yn cael ei dynnu oddi ar werth ym Merthyr Tudful.

Cysylltwch â Ni