Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymwchwiliad afiechydon heintus

Mae nifer fach o achosion o afiechydon dŵr a bwyd o fewn y fwrdeistref bob blwyddyn, sy’n cael eu cofnodi gan feddygon lleol, yn yr Ysbyty a gan y cyhoedd. Mae pob un yn cael ymchwiliad ac mae ymgais yn cael ei wneud i ddod o hyd i darddiad yr afiechyd.

Mae’r ymchwiliad yma yn arbennig o bwysig  pan fo’r achos gwreiddio yn arwain at nifer o achosion  tebyg eraill ac yn arwain at samplo amrywiaeth o fwydydd a chyflenwadau dŵr ac yn y blaen.

Y pryder mwyaf yw darganfod achos yr afiechyd yn gynnar er mwyn sicrhau nad yw yn gwasgaru ymhellach ac effeithio ar nifer fawr o bobl.

Mae teuluoedd a grwpiau a effeithir gan yr afiechyd yn derbyn cyngor a gwybodaeth am sut i leihau ymlediad yr afiechyd ymysg ei gilydd ac yn cael eu cynghori am fod yn absennol o’r gwaith os ydynt yn heintus.

Mae trosglwyddo gwybodaeth ar frys am afiechydon heintus yn bwysig iawn wrth leihau'r ymlediad, felly mae trosglwyddo gwybodaeth yn electronig rhwng awdurdodau lleol a’r proffesiwn meddygol yn gyffredin.

Mae hyn wedi golygu darganfod achosion o wenwyn bwyd ac afiechydon eraill ymysg teithwyr o Brydain a achoswyd mewn gwestai tramor.

Ffynhonnell arall o afiechyd yw cyswllt gydag anifeiliaid, felly mae siopau anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a chnofilod i gyd yn cael eu targedu at sylw'r cyhoedd.

Mae Swyddfeydd Iechyd yr Amgylchedd o Adran Iechyd y Cyhoedd yn gweithio yn agos gydag Iechyd y Cyhoedd Cymru fel rhan o Dîm Rheoli Achosion (TRhA) sy’n cael eu sefydlu i ymchwilio i achos o Cryptosporidiosis mewn perthynas â phwll nofio ym Merthyr Tudful. Gellir gweld adroddiad y TRhA trwy glicio ar y ddolen i’r dde o’r dudalen hon.

Cysylltwch â Ni