Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rheoliadau gwybodaeth amgylcheddol

Daeth Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 i rym ar 1 Ionawr 2005. Mae’r rheoliadau’n rhoi hawl i aelodau’r cyhoedd i wybodaeth amgylcheddol benodol os yw’r wybodaeth honno gan y Cyngor. Gellir gwneud y cais yn ysgrifenedig, trwy e-bost dros y ffôn neu trwy fynd at y Cyngor.

Mae gwybodaeth amgylcheddol yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Gyflwr elfennau ar yr amgylchedd gan gynnwys aer, dŵr, pridd, tir ac amrywiaeth fiolegol.
  • Ffactorau megis sylweddau, ynni, sŵn, ymbelydredd a gwastraff sy’n effeithio ar yr elfennau a nodir ym mharagraff 1.
  • Mesurau (megis polisïau, cynlluniau, rhaglenni a chytundebau) a gweithgareddau sy’n debygol o effeithio ar neu amddiffyn yr elfennau a nodir ym mharagraff 1 neu sy’n debygol o effeithio ar y ffactorau a nodir ym mharagraff 2.
  • Adroddiadau ar weithredu deddfwriaeth amgylcheddol.
  • Mantais cost a dadansoddiadau a chasgliadau economaidd eraill a ddefnyddir yn fframwaith y mesurau a’r gweithgareddau a nodir ym mharagraff 3.
  • Cyflwr iechyd a diogelwch pobl, gan gynnwys halogi’r gadwyn fwyd, cyflwr bywyd dynol, safleoedd diwylliannol a strwythurau adeiledig yn yr ystyr y gall cyflwr yr elfennau’r amgylchedd a nodir ym mharagraff 1 effeithio arno, neu trwy’r elfennau hynny unrhyw faterion a nodir ym mharagraffau 2 a 3.

Bydd yr awdurdod fel arfer dan rwymedigaeth i ddarparu’r wybodaeth hon fel y mae. Mae nifer o eithriadau ond os yw’r un o’r rhain yn gymwys byddwn yn esbonio pam. Rhaid ateb y rhan fwyaf o geisiadau ymhen 20 niwrnod gwaith. Os, er enghraifft, yw’r wybodaeth y gofynnir amdani’n gymhleth neu os gofynnir am swmp mawr o wybodaeth gellir ymestyn y cyfnod ymateb.

Mae hawl gan y Cyngor i godi swm rhesymol am ddarparu’r wybodaeth dan Reoliadau 2004. Mae hyn hefyd yn amodol ar rai eithriadau penodol. Bydd unrhyw un sy’n gwneud cais am wybodaeth yn cael gwybod am y gost y mae’n rhaid ei thalu. Mae angen y taliad fel arfer cyn rhoi’r wybodaeth.

Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar yr hawliau hyn ar gael o wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cysylltwch â Ni