Ar-lein, Mae'n arbed amser

Iechyd a diogelwch yn y gweithle - ymchwilio

Mae dyletswydd gan yr Awdurdod i orfodi’r rheoliadau diogelwch perthnasol i atal damweiniau a salwch ymhlith y gweithwyr a’r cwsmeriaid niferus. Mae’r adeiladau amrywiol yn cynnwys siopau, swyddfeydd, adeiladau chwaraeon, warysau, adeiladau crefyddol, garejys, a diwydiannau gwasanaeth eraill megis gwestai, tafarndai, clybiau, siopau trin gwallt, gweithgareddau hamdden.

 

Caiff pob adeilad ei archwilio fel mater o drefn i sicrhau bod darpariaethau diogelwch a gweithdrefnau rheoli digonol ar waith i leihau’r perygl o ddigwyddiadau rhagweladwy yn peri anaf. Bydd effeithiau hirdymor ar iechyd y gweithwyr yn sgil sŵn, bod yn agored i sylweddau ac anafiadau straen ailadrodd hefyd yn cael eu hasesu.

 

Cymerir camau gorfodi i leihau’r tebygolrwydd o ddamweiniau neu anafiadau neu i sicrhau darpariaeth cyfleusterau digonol i weithwyr megis tai bach, dillad amddiffynnol, hyfforddiant a gwybodaeth, cymorth cyntaf ac ati.

Gellir adrodd ar amodau gwaith anniogel i ni trwy’r manylion cyswllt isod.

Cysylltwch â Ni