Ar-lein, Mae'n arbed amser

Prosesau a Ganiateir

Rheoleiddio Diwydiant

Gall allyriadau o ddiwydiant effeithio’n sylweddol ar ansawdd aer, felly mae nifer o gyfundrefnau rheoli ar waith gan gynnwys y canlynol:

  • LAPC (Rheoli Llygredd Aer Lleol)
  • LAPPC (Atal a Rheoli Llygredd yr Awdurdod Lleol)
  • IPPC (Atal a Rheoli Llygredd Integredig)
  • LA-IPPC (Atal a Rheoli Llygredd Integredig yr Awdurdod Lleol)

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoleiddio’r diwydiannau mwy a elwir yn Rhan A neu’n osodiadau A1, dan y gyfundrefn IPPC. Mae awdurdodau lleol yn rheoleiddio diwydiannau llai a elwir yn brosesau neu osodiadau Rhan B neu osodiadau Rhan A2, dan y cyfundrefnau LAPC, LAPPC a LA-IPPC regimes.

 

Fel rhan o'r gyfundrefn hon mae awdurdodau lleol yn ‘awdurdodi’ neu’n ‘caniatáu’ pob proses neu osodiad Rhan B ac A2 yn eu hardal. Mae Swyddogion yr Adran Iechyd y Cyhoedd yn archwilio pob proses neu osodiad yn rheolaidd i sicrhau cydymffurfio ag amodau’r awdurdod neu’r drwydded. Mae ffurflen gais ar gael gan yr Adran neu drwy lawr lwytho Ffurflen Gais am Drwydded.pdf [115k].

 

Caiff allyriadau nwyon, mygdarthau, llwch ac aroglau o’r prosesau neu’r gosodiadau hyn eu monitro i sicrhau cydymffurfio ac i atal allyriadau mwg anghyfreithlon a llygredd anweladwy rhag mynd i mewn i’r atmosffer.

Mae galw ar y Cyngor i gadw cofrestr gyhoeddus o’r cyfleusterau rheoledig yn y Fwrdeistref sy’n cynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 19 Rheoliadau 2007. Mae’r gofrestr gyhoeddus hon yn cynnwys manylion am bob cyfleuster rheoledig Rhan A1, A2 a B a ganiateir yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a gellir ei gweld yn swyddfeydd Canolfan Ddinesig y Cyngor.

 

Mae arweiniad manwl, Cyfarwyddebau a Rheoliadau ar gael ar wefan DEFRA (www.defra.gov.uk).

Rydym hefyd yn ymdrin â chwynion am niwsans yn sgil gollyngiadau i’r aer o adeiladau masnachol sydd â phrosesau, boeleri a llosgwyr gwastraff yn ogystal â llwch ac ati o safleoedd adeiladu a’u tebyg.

Cysylltwch â Ni