Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cofrestru Adeilad Addoli

I ardystio adeilad fel man addoli, mae'n rhaid llenwi dwy ffurflen 76 (sydd ar gael o'r swyddfa gofrestru) a'u dychwelyd i'r swyddfa gofrestru ynghyd â'r ffi o £28. Os yw'r ffurflenni mewn trefn, bydd yr adeilad yn cael ei gofnodi fel man addoli ar y rhestr sy'n cael ei gadw gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Gellir cofrestru man addoli wedi'i ardystio'n briodol ar gyfer gweinyddu priodasau. Mae'n rhaid i'r sawl sy'n gwneud y cais lenwi a dychwelyd dwy ffurflen 78 (sydd ar gael o'r swyddfa gofrestru). Y ffi at y diben hwn yw £120. Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, bydd yr adeilad yn cael ei ardystio gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i weinyddu priodasau.

Cysylltwch â Ni