Ar-lein, Mae'n arbed amser
Grantiau Economi Gymdeithasol
Grantiau Economi Gymdeithasol
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Mae’r grantiau isod wedi eu cyllido gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Dyddiad cau pob cais yw – 5pm dydd Gwener Mai’r 3ydd 2024.
Os hoffech lenwi unrhyw un o'r ffurflenni cais isod ar ffurf Word, cysylltwch â ni.
GRANT CYFALAF MENTER GYMDEITHASOL CFfG y DU
Pwrpas y grant hwn yw cynnig cymorth cyfalaf i sefydliadau'r sector economi gymdeithasol. Bydd y grant hwn yn galluogi sefydliadau/busnesau i brynu offer cyfalaf neu ymgymryd â gwaith cyfalaf.
Bydd y grant yn ariannu hyd at 90% o gyfanswm costau cymwys y prosiect hyd at uchafswm o £30,000.
Grant Cyfalaf Menter Gymdeithasol Cffg Y Du Ffurflen Gais
Grant Cyfalaf Menter Gymdeithasol Cffg Y Du Canllawiau 2024
GRANT CYFALAF OFFER CHWARAEON CFfG y DU
Pwrpas y grwnt hwn yw cynnig cymorth cyfalaf i brynu offer chwaraeon i glybiau chwaraeon ym Merthyr Tudful.
Bydd y grant yn ariannu hyd at 100% o gyfanswm costau cymwys y prosiect hyd at £500.
Grant Cyfalaf Offer Chwaraeon Cffg Y Du Ffurflen Gais
Grant Cyfalaf Offer Chwaraeon Cffg Y Du Canllawiau 2024
GRANT CAFFAELIAD ASEDAU’R AWDURDOD LLEOL CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DEYRNAS UNEDIG
Bwriad y grant yw cynnig cefnogaeth ariannol i sefydliadau yn sector yr economi gymdeithasol. Bydd y grant yn galluogi sefydliadau i brynu asedau oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful y mae ganddynt brydles/ drwydded ar eu cyfer ar hyn o bryd.
Bydd y grant yn ariannu hyd at 50% o gostau prynu cymwys yn seiliedig ar brisiad a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Grant Caffaeliad Asedau’r Awdurdod Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Y Deyrnas Unedig Ffurflen Gais
Grant Caffaeliad Asedau’r Awdurdod Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Y Deyrnas Unedig Canllawiau 2024
GRANT CEFNOGI CYFALAF TROSGLWYDDO ASEDAU CYMUNEDOL CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU
Bwriad y cynllun grant yw cefnogi hyrwyddiad/ cynaladwyedd Trosglwyddo Asedau Cymunedol o adeiladau sy’n eiddo i’r Awdurdod Lleol i reolaeth sefydliadol yr economi gymdeithasol. Bydd y grant yn cefnogi gwelliannau i adeiladau a phryniannau cyfalaf.
Gall y grant ariannu hyd at 100% o gyfanswm costau cymwys y prosiect hyd at £10,000.
Grant Cefnogi Cyfalaf Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cronfa Ffyniant Gyfferdin Y Du Ffurflen Gais
Grant Cefnogi Cyfalaf Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cronfa Ffyniant Gyffredin Y Du Canllawiau 2024
GRANT CYFALAF DATGARBONEIDDIO MENTER GYMDEITHASOL CFfG y DU
Pwrpas y grant hwn yw cynnig cymorth cyfalaf i sefydliadau'r sector economi gymdeithasol. Bydd y grant hwn yn galluogi sefydliadau/busnesau ac yn arbennig y rhai sy'n rheoli cyfleusterau cymunedol, i brynu a gosod mesurau a fydd yn helpu i leihau eu hôl troed carbon yn ogystal â'u biliau cyfleustodau yn y tymor hir.
Bydd y grant yn ariannu hyd at 90% o gyfanswm costau cymwys y prosiect hyd at uchafswm o £10,000
Grant Cyfalaf Datgarboneiddio Menter Gymdeithasol Cffg Y Du Ffurflen Gais
Grant Cyfalaf Datgarboneiddio Menter Gymdeithasol Cffg Y Du Canllawiau 2024
GRANT FFIOEDD PROFFESIYNOL MENTER GYMDEITHASOL CFfG Y DU
Pwrpas y grant hwn yw cynnig cymorth ariannol ar gyfer sefydliadau’r sector economi cymdeithasol. Bydd y grant yn aroannu sefydliadau/busnesau i ymgysylltu ag ymarferwyr proffesiynol er mwyhn darparu cymorth addas ar gyfer sefydliadau a galluogi datblygiadau yn y dyfodol.
Bydd y grant yn ariannu hyd at 90% o gyfanswm costau cymwys y prosiect.
Grant Ffioedd Proffesiynol Menter Gymdeithasol Cffg Y Du Ffurflen Gais
Grant Ffioedd Proffesiynol Menter Gymdeithasol Cffg Y Du Canllawiau 2024
CRONFA DATBLYGU GWEFANNAU MENTRAU CYMDEITHASOL CFfG y DU
Pwrpas y grant hwn yw cynnig cymorth ariannol i sefydliadau'r sector economi gymdeithasol. Bydd y grant hwn yn galluogi sefydliadau/busnesau i weithredu datblygiadau digidol i gefnogi eu darpariaeth gwasanaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Bydd y grant yn ariannu hyd at 90% o gyfanswm costau cymwys y prosiect.
Cronfa Datblygu Gwefannau Mentrau Cymdeithasol Cffg Y Du Ffurflen Gais
Cronfa Datblygu Gwefannau Mentrau Cymdeithasol Cffg Y Du Canllawiau 2024
Byddwn yn derbyn pob cais a dogfennaeth drwy e-bost. Cyflwynwch eich cais i economic.development@merthyr.gov.uk.
Sylwch hefyd nad yw cyflwyno cais yn gwarantu cyllid.
Gellir hefyd anfon ffurflenni cais i:
Tîm Menter CBSMT
Canolfan Orbit
Parc Busnes Rhydycar,
Merthyr Tudful
CF48 1DL
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â economic.development@merthyr.gov.uk yn y lle cyntaf.