Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mentrau Cymdeithasol
Mae Mentrau Cymdeithasol yn fusnesau sy’n masnachu i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, gwella cymunedau, cyfleoedd bywyd pobl neu’r amgylchedd.
Fel unrhyw fusnes, nod mentrau cymdeithasol yw cynhyrchu gormodedd – gan ail-fuddsoddi’r gormodedd yn y busnes neu’r gymuned i barhau â’u hamcanion cymdeithasol. Nid ydyn nhw felly wedi’u gyrru gan yr angen i gael yr elw mwyaf i randdeiliaid neu berchnogion.
Mae mentrau cymdeithasol yn gweithredu ar draws sawl sector gwahanol megis gofal plant, ailgylchu, iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, chwaraeon a hamdden, adloniant, celf a thwristiaeth neu redeg eich siop neu’ch tafarn leol! Maen nhw hefyd ar wahanol ffurfiau megis ymddiriedolaethau datblygu, undebau credyd, busnesau cymunedol, mentrau cydweithredol, cwmnïau cymdeithasol, tai cydfuddiannol neu farchnadoedd llafur trosiannol.
Gall mentrau cymdeithasol wneud cyfraniad enfawr ym Merthyr Tudful i greu cymunedau cadarn a chynaliadwy. Gallan nhw roi cyfle i gymunedau gael perchnogaeth a rheolaeth ar wasanaethau lleol y mae angen mawr amdanyn nhw, helpu i gynyddu cyfoeth lleol, a darparu cyfleoedd hyfforddiant, addysg a chyflogaeth i bobl leol.