Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyllid Ewropeaidd

Mae’r Tîm Cyllid Ewropeaidd a Chyllid Allanol yn darparu ystod o gefnogaeth ac arweiniad i bob prosiect a ariannir yn yr ardal leol trwy Raglen Gydgyfeiriant 2007-2013. Gan weithio fel Timau Ewropeaidd Arbenigol, mae’r Tîm Cyllid Ewropeaidd a Chyllid Allanol yn bwynt cyswllt rhwng prosiectau sy’n cael arian a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ddatrys problemau ac ateb ymholiadau.

Yn ogystal, mae’r tîm hefyd yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau hyfforddi a sesiynau gwybodaeth i bob sector yn y Fwrdeistref Sirol. Mae ffeiriau ariannu blynyddol yn digwydd tua mis Medi ac mae rhaglen hyfforddiant parhaus ar waith, gan ymdrin â meysydd megis rheoli prosiectau, rheoli archwiliadau’r UE a dirwyn prosiectau i ben.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Tîm Cyllid Ewropeaidd a Chyllid Allanol

Rôl y Tîm Cyllid Ewropeaidd a Chyllid Allanol yw helpu i nodi a monitro’r holl weithgarwch cyllid allanol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Er mwyn cyflawni’r amcan hwn mae’r elfennau canlynol yn hanfodol i weithgareddau’r tîm:

  • Gweithio fel Tîm Ewropeaidd Arbenigol Allgymorth Merthyr Tudful
  • Bod yn rhan o ddatblygu a rhannu gwybodaeth am brosiectau dan nawdd Ewropeaidd gan gynnwys y Cynllun Datblygu Gwledig
  • Helpu adrannau’r awdurdod lleol a sefydliadau’r Trydydd Sector i ddatblygu cyllid allanol
  • Darparu hyfforddiant ar bob agwedd ar reoli a chyflawni dan nawdd allanol
  • Rhannu gwybodaeth gywir a diweddar am gyllid allanol ar draws y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys Ffeiriau Cyllid, Cylchlythyron a Gwefan Cyllid Ewropeaidd a Chyllid Allanol
  • Hybu’r holl gyfleoedd ariannu allanol
  • Datblygu a chynnal perthynas â chyrff arian grant, rhanddeiliaid allanol a sefydliadau yn y Fwrdeistref Sirol a’r cyffiniau
  • Rhannu grantiau Trydydd Sector trwy Gronfa Datblygu Merthyr Tudful a Chytundebau Lefel Gwasanaeth

Mae Prosiect y Tîm Ewropeaidd Arbenigol ar fin dod i ben, fodd bynnag mae cefnogaeth ac arweiniad ar gael i unrhyw brosiect sy’n cael Arian Cydgyfeiriant hyd ddiwedd mis Medi 2015. Ewch i’r dolenni at wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru sydd ar gael am ragor o wybodaeth am Raglenni Ewropeaidd 2007-2013 a 2014-2020.

Rhaglenni 2014-2020

Mae rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, sy’n cynnwys ardaloedd 15 awdurdod lleol, wedi cael y lefel uchaf o gefnogaeth gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer cylch rhaglennu Cronfeydd Strwythurol 2014–2020.

Mae rhaglenni Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cynnwys arian o ddwy Gronfa Strwythurol Ewropeaidd ar wahân: Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Bydd arian Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn helpu i gefnogi trawsffurfio parhaus yr ardal yn economi gynaliadwy a chystadleuol trwy fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesed, cystadleuaeth rhwng Mentrau Bach a Chanolig, ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni, cysylltedd a datblygiad trefol. Bydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cael ei defnyddio i drechu tlodi trwy gyflogaeth gynaliadwy, cynyddu sgiliau a mynd i’r afael â diweithdra ymhlith yr ifanc.

Dylai unrhyw sefydliad neu unigolyn a chanddo ddiddordeb yn y rhaglen hon gysylltu â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Timau Ewropeaidd Arbenigol

Mae Prosiect y Tîm Ewropeaidd Arbenigol ar fin dod i ben, fodd bynnag mae cefnogaeth ac arweiniad ar gael i unrhyw brosiect sy’n cael Arian Cydgyfeiriant hyd ddiwedd mis Medi 2015. Ewch i’r dolenni at wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru sydd ar gael am ragor o wybodaeth am Raglenni Ewropeaidd 2007-2013 a 2014-2020.

Mae Timau Ewropeaidd Arbenigol yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor am ddim i unrhyw un yng Nghymru sy’n dymuno elwa ar Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

Pwy all y Timau Ewropeaidd Arbenigol ei helpu?

Sefydliadau ac unigolion o’r sector cyhoeddus, preifat neu’r trydydd sector sy’n dymuno cael arian Ewropeaidd.

Sefydliadau neu fusnesau sy’n datblygu neu’n rheoli prosiectau Ewropeaidd a ariennir trwy’r rhaglenni Cydgyfeiriant neu Gystadleuaeth a Chyflogaeth Ranbarthol.

Prosiectau sy’n dymuno cysylltu â phartneriaid neu sefydliadau cyflawni posibl ar lefel leol neu ranbarthol.

Sut all y Tîm Ewropeaidd Arbenigol helpu?

Rydym yn gallu eich:

  • helpu i gyflawni’ch prosiectau
  • cysylltu â sefydliadau eraill, rhanddeiliaid, partneriaid posibl a sefydliadau cyfateb arian a allai fod â diddordeb yn eich prosiect neu syniadau prosiect tebyg a’ch helpu i drafod eich cynigion â nhw
  • helpu i ddeall strategaethau, cynlluniau gweithredu a chanllawiau perthnasol
  • helpu i ddeall sut mae syniad eich prosiect yn cydweddu â’r blaenoriaethau perthnasol a fframweithiau strategol
  • diweddaru am raglenni, prosiectau neu gyfleoedd eraill am arian
  • helpu trwy’r broses gaffael i gyflawni prosiectau UE
  • diweddaru am gyfleoedd i dendro am waith cyflawni ar gyfer prosiectau UE eraill
  • darparu hyfforddiant a sesiynau codi ymwybyddiaeth i hyrwyddo cydweithredu a rhannu arfer da

Cysylltwch â Ni