Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am grantiau Menter Gymdeithasol, Cymunedol a Chwaraeon, ewch i'r dudalen Economi Cymdeithasol.

Cynllun Grant Dechrau Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Pwrpas y grant hwn yw cynorthwyo busnesau sydd yn dechrau o’r newydd ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac nad sydd yn gallu cyrchu unrhyw ffynhonell arall o arian i ddechrau busnes llawn amser am y tro cyntaf.

Mae’r grant yn darparu cymorth ariannol i fusnesau newydd cymwys (hyd at 12 mis o fasnachu) i ddatblygu a ffynnu.

Mae’r cynnig grant yn seiliedig ar hyd at 100% o gostau cymwys, rhesymol y cynllun fel arfer am hyd at uchafswm o £2,000.

Nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd ar hyn o bryd wrth i ni adolygu'r lefel uchel o geisiadau a dderbyniwyd.

Cynllun Grant y Sector Breifat Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful £10,000

Pwrpas y cynllun grant hwn yw darparu arian grant ar gyfer cynyddu swyddi, niferoedd ymwelwyr, cefnogi mentergrawch, ac chyfleoedd arallgyfeirio.

Mae’r grant wedi’i anelu at fusnesau sydd wedi’u lleoli ym Merthyr Tudful ac sydd wedi bod yn masnachu am 12 mis neu ragor.

Mae’r cynnig grant wedi’i seilio ar hyd at 90% o gostau cymwys, rhesymol y prosiect hyd at uchafswm o £10,000.

Nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd ar hyn o bryd wrth i ni adolygu'r lefel uchel o geisiadau a dderbyniwyd.

Cynllun Grant y Sector Breifat Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful £50,000

Pwrpas y cynllun grant hwn yw darparu arian grant ar gyfer cynyddu swyddi, niferoedd ymwelwyr, cefnogi mentergrawch, a chyfleoedd arallgyfeirio.

Mae’r grant wedi’i anelu at fusnesau sydd wedi’u lleoli ym Merthyr Tudful ac sydd wedi bod yn masnachu am 12 mis neu ragor.

Mae’r cynnig grant wedi’i seilio ar hyd at 80% o gostau cymwys, rhesymol y prosiect hyd at uchafswm o £50,000.

Nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd ar hyn o bryd wrth i ni adolygu'r lefel uchel o geisiadau a dderbyniwyd.

Cynllun Grant Cyfalaf Mentergarwch yr Ifanc Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Pwrpas y grant hwn yw cynorthwyo busnesau sydd yn dechrau o’r newydd ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac na all gyrchu ffynonellau eraill o arian i sefydlu busnesau llawn amser am y tro cyntaf.

Mae’r grant yn darparu cymorth ariannol er mwyn cynorthwyo busnesau cymwys, newydd (sydd wedi bod yn msnachu am hyd at 12 mis) i ddatblygu a ffynnu.

Mae’r cynnig grant yn seiliedig ar hyd at 100% o gostau cymwys, rhesymol y prosiect, fel arfer hyd at uchafswm o £2,000.

 

Grant Datblygu Eiddio CFfG

Bydd y Grant Datblygu Eiddo CFfG yn cynorthwyo ymgeiswyr i wella'u heiddo yn gorfforol trwy gynnig y cyfle i wneud cais am grant ar gyfer ffrynt siop/eiddo masnachol newydd a gwaith allanol a mewnol cysylltiedig. Bwriad y gronfa yw gwella blaen adeiladau a dod â llawr masnachol gwag yn ôl i ddefnydd buddiol. Rhaid i'r gwelliannau a wneir fod o fewn perchnogaeth neu lesddaliad yr ymgeisydd o'r eiddo.

Bydd y grant yn uchafswm o 70% o'r costau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm grant o £250,000 yn unigryw i TAW. Bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail ei amgylchiadau penodol.

Nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd ar hyn o bryd wrth i ni adolygu'r lefel uchel o geisiadau a dderbyniwyd.

 

Cynllun Grant Datgarboneiddio Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful £50,000

Bwriad y cynllun grant yw darparu busnesau gydag arian grant at ddibenion cynyddu swyddi, cynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi menter, allgyfeirio a manteisio ar gyfleoedd ynni gwyrdd.

Mae'r grant wedi'i anelu at fusnesau sydd wedi'u lleoli ym Merthyr Tudful ac sydd wedi bod yn masnachu ers 12 mis neu ragor

Mae’r cynnig grant yn seiliedig ar hyd at 80% o gostau prosiect cymwys a rhesymol hyd at uchafswm o £50,000

Nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd ar hyn o bryd wrth i ni adolygu'r lefel uchel o geisiadau a dderbyniwyd.

 

Cynllun Grant Datgarboneiddio Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful £10,000

Bwriad y cynllun grant yw darparu busnesau gydag arian grant at ddibenion cynyddu swyddi, cynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi menter, allgyfeirio a manteisio ar gyfleoedd ynni gwyrdd.

Mae'r grant wedi'i anelu at fusnesau sydd wedi'u lleoli ym Merthyr Tudful ac sydd wedi bod yn masnachu ers 12 mis neu ragor

Mae’r cynnig grant yn seiliedig ar hyd at 90% o gostau prosiect cymwys a rhesymol hyd at uchafswm o £10,000

Nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd ar hyn o bryd wrth i ni adolygu'r lefel uchel o geisiadau a dderbyniwyd.

 

Grant Cyfalaf Atyniad Twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful hyd at £20,000

Pwrpas y cynllun grant yw darparu cyllid grant i Atyniadau Twristiaeth gyda'r nod o gynyddu swyddi, cynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi menter ac arallgyfeirio.

Mae'r grant wedi'i anelu at atyniadau sydd wedi'u lleoli ym Merthyr Tudful a bydd yn eu cefnogi i ddatblygu eu hasedau adeiledig a darparu cyllid ar gyfer offer a fydd yn gwella eu darpariaeth gwasanaeth.

Mae'r cynnig grant yn seiliedig ar hyd at 90% o gostau prosiect cymwys rhesymol hyd at uchafswm o £20,000.

Dyddiad cau - 5pm dydd Gwener Mai’r 3ydd 2024.

 

Grant Cyfalaf Darparwyr Llety Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful hyd at £10,000

Pwrpas y cynllun grant yw darparu cyllid grant i Ddarparwyr Llety Twristiaeth gyda'r nod o gynyddu swyddi, cynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi menter ac arallgyfeirio.

Mae'r grant wedi'i anelu at fusnesau sydd wedi'u lleoli ym Merthyr Tudful a bydd yn eu cefnogi i ddatblygu eu hasedau adeiledig a darparu cyllid ar gyfer offer a fydd yn gwella eu darpariaeth gwasanaeth.

Mae'r cynnig grant yn seiliedig ar hyd at 90% o gostau prosiect cymwys rhesymol hyd at uchafswm o £10,000.

Dyddiad cau - 5pm dydd Gwener Mai’r 3ydd 2024.

 

Cysylltwch â Ni