Ar-lein, Mae'n arbed amser
Noddi Cylchfan
Cynllun Noddi Cylchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) nifer o gyfleoedd noddi cylchfan ar gael i fusnesau a sefydliadau yn yr ardal, sydd â diddordeb mewn hysbysebu i gynulleidfa helaeth sy’n teithio heibio.
Mae’r costau ar gyfer hysbysebu fel a ganlyn:
Cyfeirnod | Disgrifiad | Ar gael | Ffi Flynyddol |
---|---|---|---|
1 | Rhydycar | ydy | 3,500 |
2 | Caedraw | na | 3,500 |
3 | Maes Parcio’r Orsaf | na | 3,500 |
4 | Penydarren | ydy | 2,500 |
5 | Dowlais | ydy | 2,500 |
6 | Heol Melin yr Afr | na | 2,500 |
7 | Twnnel Trevithick (ger garej Vauxhall) | ydy | 3,500 |
8 | Abercannaid (ger Parc y Ddraig / Willows) | ydy | 1,500 |
9 | Ystâd Ddiwydiannol Dowlais (cylchfan Galon Uchaf ) | na | 2,500 |
10 | Gurnos Canolog | na | 1,500 |
11 | Ysbyty’r Tywysog Siarl | ydy | 2,500 |
12 | Ffordd Gylchol Gurnos | ydy | 2,500 |
13 | Troedyrhiw | ydy | 2,500 |
14 | Fiddlers Elbow | na | 3,500 |
15 | Gellideg (Heol Abertawe) | na | 3,500 |
16 | Pengarnddu (ger Lidl/Asda) | na | 3,500 |
17 | Trago Mills | ydy | 3,500 |
18 | O bosib yn dod cyn bo hir-Parc Iechyd Kier Hardie | ||
19 | O bosib yn dod cyn bo hir-Mynedfa i Barc Manwerthu |
Cyfeiriwch hefyd at y cynllun atodedig sy’n dangos lleoliad pob cylchfan.
Bydd CBSMT yn gyfrifol am y dylunio, cynhyrchu a chodi’r arwyddion yn unol â’r meini prawf canlynol:
- Bydd yr arwyddion yn 500mm x 1200mm.
- Bydd cefndir gwyn gan yr arwyddion, er y gall logos fod mewn lliw llawn.
- Gellir cynnwys enw, logo a datganiad byr am y cwmni ar yr arwyddion.
- Bydd yr arwyddion hefyd yn cynnwys “Ymwelwch â Merthyr/Visit Merthyr” ynghyd â logo'r Cyngor.
- Bydd y nifer o arwyddion a osodir ar gylchfan yn gyfyngedig i’r nifer o bwyntiau mynediad hyd at uchafswm o 4.
- Ni fydd yr arwyddion yn adlewyrchol.
- Bydd yr arwyddion yn sefyll ohonynt eu hunain a heb eu goleuo.
- Caiff yr arwyddion eu lleoli ar lefel y tir.
Bydd CBSMT yn gyfrifol am gael unrhyw ganiatâd hysbysebu.
Bydd y nawdd yn parhau am gyfnod o 3 blynedd, ac yn dilyn hynny bydd argaeledd y cyfle am nawdd yn cael ei ail-hysbysebu.
Os derbynnir mwy nag un mynegiant o ddiddordeb erbyn y dyddiad cau ar gyfer unrhyw gylchfan, bydd pob parti sy’n mynegi diddordeb yn cael y cyfle i gyflwyno cais pellach. Bydd CBSMT yn derbyn y cais uchaf a dderbynnir.
Deil CBSMT ar yr hawl i wrthod nawdd oddi wrth unrhyw fusnes neu sefydliad y mae’n ystyried yn amhriodol.
CYSYLLTIADAU
Allyson Barnett
01685 727417
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Uned 5
Parc Busnes Triongl
Pentrebach
Merthyr Tudful
CF48 4TQ
Gwybodaeth bellach:
- Lleoliadau’r Cylchfannau ( PDF , 1982KB )