Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyngor Busnes Safonau Masnach
Mae nifer o adnoddau ar gael a ddyluniwyd er mwyn helpu eich busnes i gydymffurfio â'r gyfraith.
Cydymaith Busnes
Mae Cydymaith Busnes yn cynnig gwybodaeth i fusnesau ac unigolion sydd angen gwybod am ddeddfwriaeth safonau masnach a diogelu defnyddwyr.
Gall busnesau ddod o hyd i gyngor a gwybodaeth ar amrywiaeth eang o destunau a materion gan gynnwys:
- Nwyddau â chyfyngiad oed
- Iechyd a lles anifeiliaid
- Hawliau defnyddwyr
- Disgrifio nwyddau a gwasanaethau
- Masnachu teg
- Diogelwch cynnyrch
- Gwerthu ar y we
- Pwysau a Mesurau
Penaethiaid Safonau Masnach Cymru (WHoTS)
Yn cynnig gwybodaeth yn ymwneud â lle gallwch gael mynediad at help a chyngor p’un ai a ydych yn fusnes neu'n ddefnyddiwr.
Ewch ar wefan Safonau Masnach Cymru
Cyngor gan safonau masnach
Gall ein swyddogion safonau masnach roi cyngor i fusnesau Merthyr Tudful am:
- Enwau busnes
- Credyd defnyddwyr
- Contractau
- Nwyddau ffug
- Disgrifio nwyddau a gwasanaethau
- Prisiau
- Diogelwch cynnyrch
- Gwerthu ar y we
- Pwysau a Mesurau
Os ydych yn fusnes lleol ym mwrdeistref Merthyr Tudful ac yr hoffech gyngor diduedd yn rhad ac am ddim, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar frig y dudalen hon.