Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cronfa Grant Cyfamod

Mae Cronfa’r Cyfamod yn derbyn £10 miliwn bob blwyddyn i gefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy ariannu prosiectau sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau penodol.
Bob blwyddyn ariannol caiff nifer o flaenoriaethau eu gosod ar gyfer dyfarnu grantiau. 
Am ragor o wybodaeth ewch i: Cronfa'r Cyfamod

Ceir 2 lwybr ymgeisio:
• grantiau bach ar gyfer ceisiadau ariannu hyd at £20,000; a
• grantiau mawr ar gyfer ceisiadau rhwng £20,001 a £500,000

Pwy all ymgeisio?
Rhaid bod y cais yn dod o gorff statudol, elusen gofrestredig neu uned lluoedd arfog gyda UIN. Y sefydliad hwn fydd y corff sy’n atebol am y grant. Byddant yn gofyn am dystiolaeth o ymgysylltu go iawn a gweithio mewn partneriaeth – yn achos elusen y tu allan i’r lluoedd arfog neu gorff statudol – gydag un ai elusen y lluoedd arfog neu uned y lluoedd arfog. Os ydych chi wedi cofrestru fel Cwmni â Diddordeb Cymunedol gallwch ymgeisio hefyd.
Byddant yn gofyn i’r sefydliad arweiniol ddechrau cytundeb partneriaeth (y maen rhaid iddynt ei gymeradwyo) gyda’u sefydliad(au) partner cyn i’r prosiect ddechrau.

Pwy na all ymgeisio?
Ni all unigolion ymgeisio na bod yn sefydliad partner.
Ni all sefydliadu heb eu corfforaethu a heb eu cofrestru fel elusennau, ymgeisio. Os oes ganddynt gyfansoddiad cywir o dan ddogfen llywodraeth fabwysiedig ac os ydynt wedi bod yn gweithredu o dan y ddogfen lywodraethu honno am o leiaf dair blynedd, yna gallant fod yn sefydliad partner.

Gan nad yw partneriaethau a rhai ffurfiau o fenter gymdeithasol yn elusennau cofrestredig neu’n Gwmnïau o Ddiddordeb Cymunedol, ni allant ymgeisio, ond gallant weithio fel partner gydag ymgeisydd arweiniol cymwys.
Am wybodaeth bellach ewch i: Proses ymgeisio am Gronfa Grant Cyfamod

Fe’ch cynghorir hefyd i gysylltu â Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog yr Awdurdod, i drafod unrhyw gais cyn ei gyflwyno. Gellir cysylltu â’r Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog drwy e-bostio  Armed.forces@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni