Ar-lein, Mae'n arbed amser

Addysg a Chyflogaeth

Gallwn eich helpu chi i ddychwelyd at addysg a chyflogaeth ar ôl eich gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog, gan weithio ar draws amrywiaeth o sefydliadau partner i’ch arwyddbostio chi at y bobl sy’n gallu helpu. 

Y Lleng Brydeinig Frenhinol
Cefnogaeth gref i ddychwelyd at fywyd sifil, ail-hyfforddi, sicrhau swydd newydd a rhagor.
Am ragor o wybodaeth ewch i: British Legion

Gyrfa Cymru
Os ydych chi am fynd yn ôl i’r gwaith, hyfforddi neu addysg, dyma eich stop cyntaf chi! Gall eich helpu â chyngor gyrfâu, llwybrau at wyliau eich breuddwydion a rhagor.
Am ragor o wybodaeth ewch i: Careers Wales  

Canolfan Byd Gwaith
Bydd eich canolfan waith leol hefyd yn gallu eich arwyddbostio chi at hyfforddiant a chyngor fel y gallwch sicrhau cymwysterau a chamu tuag at eich galwedigaeth newydd.
Am ragor o wybodaeth ewch i: Jobcentre Plus 

Addysg Oedolion
Hyrwyddo dysgu yn y gymuned a gall eich helpu chi i gael sgiliau a chymwysterau newydd, fel TG, neu ddatblygu hobïau.
Am ragor o wybodaeth ewch i: Adult Education Section

Poppy Factory / Ffatri Babi
Daeth y Ffatri Babi i fod yn elusen gyflogadwyedd arbenigol i gyn-filwyr anabl - drwy eu helpu nhw i ddod o hyd i waith gyda chwmnïau sifil ledled y DU. Strategaeth y Ffatri Babi yw dyfod yn ddarparydd cyflogadwyedd o ddewis i’r rhai o gleientiaid sy’n gyn-filwyr a glwyfwyd, anafwyd, neu sy’n sâl sy’n chwilio am waith a hefyd i gyflogwyr a all gynnig swyddi a all newid bywydau.
Am ragor o wybodaeth ewch i: Poppy Factory 

Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol gan Brifysgol De Cymru
Mae’r cynllun arloesol hwn (a ariennir gan Gynllun Grant Cyfamod y Lluoedd Arfog) yn helpu personél sy’n gyn-filwyr ac sydd wedi gwasanaethu yn ystod y 10-15 mlynedd ddiwethaf i gyflawni credydau addysg uwch drwy osod gwerth ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad a gyflawnwyd ganddynt wrth wasanaethu neu ar ôl gadael y fyddin. Gellir defnyddio’r credyd academaidd i astudio cwrs addysg uwch ym Mhrifysgol De Cymru.
Am ragor o wybodaeth ewch i: Prifysgol De Cymru <https://www.southwales.ac.uk/study/armed-forces/>

Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog ym mhrosiect Addysg Cymru
Eu cenhadaeth yw darparu’r gefnogaeth addysgol orau bosibl i blant, drwy sicrhau fod gweithwyr proffesiynol addysgol yn deall problemau y gallai plant y lluoedd arfog yng Nghymru fod yn eu hwynebu. Cafodd rhifyn cyntaf erioed Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru: Canllaw i Ysgolion a Rhieni, ei lansio yn 2015.
Am ragor o wybodaeth ewch i: Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog

Cysylltwch â Ni