Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trefn gwyno ac adborth cwsmeriaid

Canmol neu Wneud Sylw

Er mwyn i ni gynnal neu wella ansawdd ein gwasanaethau, a helpu i gynllunio gwasanaethau newydd, bydden ni’n  gwerthfawrogi’ch canmoliaeth neu sylwadau.

Cyflwyno Canmoliaeth neu Sylw.

Gwneud Cwyn

Dydyn ni ddim yn gwneud pethau’n gywir bob amser. Os ydych chi angen cwyno, mae dewis o dair gweithdrefn i’w dilyn, gan ddibynnu ar natur eich cwyn:

Cyflwyno’ch Cwyn ar-lein

Cyn cyflwyno’ch cwyn ar-lein, sicrhewch eich bod chi’n darllen y nodiadau ychwanegol ar waelod y dudalen yma.

Rydyn ni’n eich cynghori chi i ddarllen y nodiadau os ydych chi’n ansicr pa weithdrefn dylech chi’i defnyddio. Bydd hyn yn sicrhau y byddwn ni’n ymdrin â’ch cwyn cyn gynted ag sy’n bosibl ac mewn modd mor effeithlon â phosibl.

Os ydy’ch cwyn chi yn ymwneud ag ysgol, yr Adran Addysg  fydd yn delio â hi. Serch hynny, yn aml iawn, mae’n angenrheidiol i’r Awdurdod drosgwlyddo’r gŵyn i’r ysgol. Os felly, yr ysgol fydd yn ymdrin â’r gŵyn gan ddilyn ei gweithdrefn hi.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi gyflwyno cwyn

Byddwch chi’n derbyn ymateb cydnabod cyn pen 5 diwrnod o dderbyn eich cwyn.

Ein nod ni yw datrys y gŵyn cyn pen 10 diwrnod gwaith o dderbyn eich cwyn.

Unwaith i’r Awdurdod dderbyn eich cwyn, fe gewch chi fod yn dawel eich meddwl ein bod ni’n delio â hi yn gwbl gyfrinachol, a phob cwyn arall yn yr un modd.

Cwynion Cymraeg

Iaith, Safonau a Chydymffurfiaeth Gymraeg.

Bydd cwynion neu bryderon ynghylch y Gymraeg yn dilyn yr amserlenni a'r camau a amlygir ym mholisi'r Cyngor. Bydd y Cyngor, fel y mae'r polisi hwn eisoes wedi cyfeirio ato, yn sicrhau bod y swyddogion ymchwilio yn ymgynghori ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol cyn penderfynu a yw'r awdurdod neu'r ardal wasanaeth wedi gweithredu yn unol â gofynion deddfwriaethol neu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cymeradwy.

Mae swyddogion yn ymwybodol o Safonau'r Gymraeg ac wedi mynychu hyfforddiant, a'r Polisi Cwynion a Phryderon hwn drwy sesiynau briffio. Bydd swyddogion yn dilyn y dull corfforaethol hwn wrth ymdrin â chwyn ynglŷn â'r Gymraeg a'n Safonau ac yn gallu ymgynghori â Swyddog Polisi Iaith Gymraeg yr awdurdod i gael cyngor pellach.

Os oes gennych gŵyn, cwblhewch y ffurflen ar-lein yma Gwneud Cwyn | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddog Cwynion yn y ffyrdd canlynol:

Ffôn: 01685 725000Ebost: mtcbccomplaints@merthyr.gov.uk

Os ydych yn teimlo nad yw'r gŵyn wedi cael ei datrys yn foddhaol neu fod rhywun yn ymyrryd â'ch rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg, gallwch gwyno'n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg. Gallwch gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg drwy:

Eich Adborth

Rydyn ni’n annog cwsmeriaid i roi adborth am ein gwasanaethau, oherwydd ein bod ni’n defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu i’n helpu ni i wella ein gwasanaethau. Os ydych chi wedi gwneud cwyn, mae’n bosibl eich bod chi wedi derbyn Ffurflen Adborth yn y post eisoes ond fe gewch chi gopi o’r ffurflen hefyd trwy gysylltu â ni, gan ddefnyddio’r manylion isod.

Fel arall, rhowch wybod i ni os nad ydych chi’n fodlon am unrhyw reswm, neu os oes awgrym gyda chi ynglŷn â sut y gallen ni wneud pethau’n wahanol, drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.