Ar-lein, Mae'n arbed amser
Datganiad Mynediad ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cynhelir y wefan hon gan Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym am i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Golyga hyn y dylai eich bod chi’n gallu:
- Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a’r ffont
- closio at y ddogfen hyd at 300% heb fod y testun yn symud oddi ar y sgrin
- symud o amgylch y rhan helaeth o’r wefan gan ddefnyddio’r allweddell yn unig
- symund o amgylch y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan helaeth o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o’r feddalwedd ganlynol: JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi ysgrifennu testun y wefan hon mewn arddull sydd mor syml â phosib fel ei bod yn hawdd ei deall.
Mae gan y wefan ganlynol gyngor ynghylch sut i’w wneud yn haws i ddefnyddio’ch dyfais os oes gennych anabledd: AbilityNet (external link)
Pa mor hawdd yw hi i ddefnyddio’r wefan hon?
Rydym yn ymwybodol bod rhai mannau o’r wefan sy’n anodd eu defnyddio:
- Nid yw’r meddalwedd darllen sgrin y gweithio bob tro gyda dogfennau PDF
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a’r ffont
- pan fyddwn yn darlledu fideo’n fyw, nid oes isdeitlau
- mae rhai o’n ffurflenni ar-lein yn anodd eu defnyddio os ydych yn dibynnu ar yr allweddell yn unig
- nid oes modd addasu uchder y llinell na’r gofod rhwng y testun
Adborth a Manylion Cyswllt
Os os angen gwybodaeth ynghylch y wefan hon arnoch ar ffurf wahanol e.e. PDF, print mawr, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille; cysylltwch â ni:
- e-bost - customer.care@merthyr.gov.uk
- rhif ffôn - 01685 725000
- ein ffurflen gyswllt – ffurflen gyswllt
Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn deng niwrnod gwaith.
Rhowch wybod i ni am broblemau gyda darllen a defnyddio’r wefan
Rydym o hyd yn chwilio am ffyrdd i wella’r modd y gellir defnyddio’r wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad sydd wedi eu rhestri ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn ateb gofynion y rheoliadau hygyrchedd, defnyddiwch ein ffurflen adborth er mwyn rhoi gwybod i ni:
Gweithdrefnau gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (yr EHRC yn Saesneg) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y rheoliadau hygyrchedd). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb
Cysylltu â ni drwy ffonio neu ymweld â ni yn y cnawd
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu, os wnewch chi gysylltu â ni o flaen llaw gallwn drefnu bod cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain ar gael pan fyddwch yn ymweld â ni.
Gwybodaeth Dechnegol ynghylch hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i sicrhau bod y wefan hon ar gael i bawb, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (gwefannau a dyfeisiadau symudol) 2018.
Statws Cydymffurfio
O ganlyniad i’r diffyg cydymffurfio a restrir isod, dim ond cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 (dolen allanol, Saesneg yn unig) y mae’r wefan hon.
- Nid yw dogfennau PDF yn gweithio’n gyfan gwbl gyda meddalwedd darllen sgrin.
Cynnwys nad sy’n hawdd mynd ato
Nid yw’n hawdd defnyddio’r cynnwys a restrir isod am y rhesymau canlynol.
- Nid yw dogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
- Nid oes gan rai elfennau ffrâm ac iframe werthoedd priodoledd <teitl> defnyddiol
- Nid yw cynnwys ac ymarferoldeb a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti yn gwbl hygyrch.
- Mae gan rai tudalennau faterion testun amgen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (Cynnwys di-destun).
- Mae gan rai fideos broblemau gydag is-deitlau a disgrifiad sain. Mae hyn yn methu WCAG 21. 1.2 maen prawf llwyddiant (Cyfryngau ar sail amser).
Rydym yn anelu at ddatrys y problemau hyn erbyn 30/09/2024.
Cynnwys nad sy’n disgyn o fewn ffiniau’r rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei wneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF nac unrhyw ddogfen arall a gyhoeddwyd cyn 23ain o Fedi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.
Cynnwys gan bobl eraill
Mae cynnwys ar ein gwefan a grëwyd gan bobl eraill. Nid oes gennym reolaeth, na chwaith gyfrifoldeb dros, hygyrchedd y cynnwys hwn; ond rydym yn ymdrechu i gydweithio gyda’r cyrff allanol hyn i wella eu hygyrchedd. Efallai y gallai’r rhain gynnwys:
- Dolenni i wefannau nad sy’n rhan o Merthyr.gov.uk
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu llunio geiriad i fideos byw oherwydd bod fideos byw wedi eu heithrio rhag y rheoliadau hygyrchedd.
Mapiau ar-lein
Mae mapiau ar-lein, gwasanaethau mapio, wedi eu heithrio rhag y rheoliadau hygyrchedd.
Y rheoliadau hygyrchedd – dolen allanol, Saesneg yn unig.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud er mwyn gwella hygyrchedd ein gwefan
Rydym o hyd yn chwilio am ffyrdd i wella’r modd y gellir defnyddio’r wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad sydd wedi eu rhestri ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn ateb gofynion y rheoliadau hygyrchedd, defnyddiwch ein ffurflen adborth er mwyn rhoi gwybod i ni:
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar y 7fed o Fedi 2020. Fe’i hadolygwyd ar y 15fed o Chwefror 2024.
Y 14eg o Ionawr 2024 oedd y tro diweddaf y profwyd Merthyr.gov.uk. Cynhaliwyd y prawf gan Silktide. Profwyd sampl o dudalennau PDF (125 tudalen).
Sgoriwyd 100/100 gennym ar gyfer hygyrchedd. Mae 100% yn cydymffurfio gyda gwiriadau lefel A WCAG 2.2, 100% yn cydymffurfio â gwiriadau lefel AA WCAG 2.2 a 100% yn cydymffurfio â gwiriadau lefel AAA WCAG 2.2.
Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n profi pob tudalen ar y wefan drwy ddefnyddio Adnodd Hygyrchedd Skiltide. Rydym hefyd yn gwirio’n tudalennau â llaw gan ddefnyddio offer archwilio. Yr offer rydym yn eu defnyddio yw AXE a Google Chrome Extension. Bydd unrhyw dudalennau newydd yn cael eu profi yn y modd hwn hefyd. Cynhelir y profion hyn gan Dîm Datblygu’r We Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.