Ar-lein, Mae'n arbed amser

Recite Me

Mae Recite Me yn feddalwedd addas i’r cwmwl arloesol sy’n galluogi ymwelwyr i’n gwefan weld a’i defnyddio mewn ffordd sydd orau iddynt hwy.

Rydym wedi ychwanegu Bar offer iaith a hygyrchedd y we Recite Me  i’n gwefan er mwyn ei gwneud yn fwy hygyrch a chynhwysol i gymaint o bobl â phosib.

Mae’n helpu un ym mhob pump o bobl y DU sydd ag anabledd, gan gynnwys cyflyrau cyffredin fel nam golwg a dyslecsia, i gael mynediad at y wefan mewn modd sydd fwyaf addas ar eu cyfer.

Mae hefyd yn ymateb i angen yr un ym mhob deg o bobl yn y DU sydd ddim yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf, trwy gyfieithu cynnwys y we I 100 iaith wahanol.

Sut ydw i yn dod o hyd i’r bar offer Recite Me?

Gallwch agor y  Bar offer iaith a hygyrchedd y we Recite Me trwy glicio ar ddolen Offer Hygyrchedd ar dop we dudalen.

Ar ôl clicio ar ddolen yr Offer Hygyrchedd bydd bar offer  Recite Me yn agor a bydd amrywiaeth o opsiynau er mwyn addasu sut bydd y wefan yn edrych a sut i gael mynediad at gynnwys yn ymddangos.

Sut mae Recite Me yn fy helpu gyda’r wefan hon?

Mae Recite Me yn helpu pobl i gael mynediad at ein gwefan a chyflawni'r hyn maent am ei wneud, fel dod o hyd i wybodaeth am wasanaeth, gwneud cwyn, dod o hyd i gyhoeddiad neu ddarllen y newyddion.

Mae gan yr offer bar Recite Me nifer o nodweddion unigryw. Gallwch ei ddefnyddio i:

  • Ddarllen yn uchel y testun ar ein gwefan (yn cynnwys PDF)
  • Lawr lwytho’r testun fel ffeil MP3 i’w chwarae pan yn gyfleus i chi
  • Newid maint a lliw testun
  • Addasu'r lliw cefndir
  • Cyfieithu testun i fwy na 100 iaith wahanol
  • Gael mynediad at eiriadur a thesawrws integredig

Gallwch wybod mwy am sut mae Recite Me yn gweithio yma Recite Me user guide.

Alla i gael cefnogaeth wrth ddefnyddio Recite Me?

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am Recite Me cysylltwch gyda ni trwy e-bost ar Accessibility@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni