Ar-lein, Mae'n arbed amser

Archwilio Cyfrifon 2023-24 RCT Llwydcoed Crem

ARCHWILIO CYFRIFON 2023/2024

Dyma RYBUDD, yn unol ag Adrannau 30 a 31 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ac Rheoliadau Cyfriron Ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd):

ARCHWILIO CYFRIFON:

(I) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2023/2024
(II) Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2023/24
(III) Cydbwyllgor Amlosgfa Llwydcoed ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2023/2024
(IV) Cydbwyllgor Addysg Consortiwm Canolbarth y De ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2023/2024

  1. Rhwng 19 Awst 2024 a 16 Medi 2024 (yn gynhwysol) rhwng 9.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener caiff unrhyw etholwr lleol archwilio a gwneud copïau o gyfrifon y cyrff a enwir uchod am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024 a holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau yn ymwneud â hwy.
  2. Mae'r dogfennau yma ar gael i'w harchwilio yn Uwchadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Tŷ Oldway, Porth, CF39 9ST.
  3. Er mwyn ein galluogi ni i wneud trefniadau priodol ar gyfer arolygu, gofynnwn i etholwyr wneud apwyntiad trwy e-bost i GwasanaethauiGwsmeriaid@rctcbc.gov.uk, dros y ffôn ar 01443 570033 neu drwy ysgrifennu at Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran – Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen, Tŷ Oldway, Porth, CF39 9ST.
  4. Ar neu ar ôl 17 Medi 2024, hyd nes cwblhau'r archwiliad, bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhoi cyfle i unrhyw etholwr llywodraeth leol, neu ei gynrychiolydd, yn yr ardal y mae'r cyfrifon yn ymwneud â hi, i'w holi am y cyfrifon. Bydd hawl i unrhyw etholwr o'r fath, neu ei gynrychiolydd, fynychu gerbron yr Archwilydd Cyffredinol i wneud unrhyw wrthwynebiad i'r cyfrifon.
  5. Gellir cysylltu â'r Archwilydd Cyffredinol trwy Angharad Clemens yn Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd CF10 4BZ neu drwy e-bost: Angharad.Clemens@audit.wales.
  6. Yn gyntaf rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i'r Archwilydd Cyffredinol trwy Angharad Clemens yn Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd CF10 4BZ neu drwy e-bost: Angharad.Clemens@audit.wales. Rhaid anfon copi o'r rhybudd ysgrifenedig at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – i’r cyfeiriad sydd wedi’i nodi isod.

Dyddiad: 5 Awst 2024
P Mee
Prif Weithredwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Llys Cadwyn 2, Pontypridd, CF37 4TH.

Cysylltwch â Ni