Ar-lein, Mae'n arbed amser
Hawliadau yswiriant y Cyngor
Mae hawliadau yswiriant a gyflwynir gan drydydd parti yn erbyn y Cyngor yn cael eu trin gan yr Adran Yswiriant.
Nid yw cyflwyno hawliad yn rhoi hawl awtomatig i chi i iawndal am gostau neu anafiadau. Y rheswm dros yr hawliad yw y bu bai ar ran y Cyngor. Y mae felly'n angenrheidiol eich bod chi'n profi bod y Cyngor yn gyfreithiol atebol am eich colled.
Manylion am ein Hyswirwyr Atebolrwydd Cyhoeddus ac Atebolrwydd Cyflogwyr
O 1 Ebrill 2016 caiff Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ei yswirio gan Aspen Insurance ar gyfer yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant atebolrwydd cyflogwyr; ein rhif polisi yw l0A6HNT16A0U (EL) / l0A6HNT16B0U (PL).
Manylion am y Porth Hawliadau – Cyfreithwyr Trydydd Parti
Mae angen i gyfreithwyr trydydd parti gyflwyno hawliadau am anafiadau ar ôl 31 Gorffennaf 2013 trwy’r porth hawliadau.
Manylion porth y Cyngor yw:
Enw: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Rhif y Sefydliad: G00316
Twyll
Rydym yn ymrwymedig i amddiffyn cronfeydd y cyhoedd rydym yn eu trafod ac atal a nodi twyll. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth am hawliadau â sefydliadau a chyrff cyhoeddus eraill.
Bydd darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn fwriadol yn cael ei adrodd i’r heddlu bôn tro i ymchwilio i’r mater a bydd camau’n cael eu cymryd i adennill costau.