Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwybodaeth Ariannol

Mae’r Cyngor yn gweithredu gwasanaeth cymorth Cyfrifyddiaeth canolog ac mae’r Adran Gyfrifyddiaeth yn gyfrifol am yr holl ddyletswyddau cyfrifyddiaeth statudol.

Amcanion

Darparu gwybodaeth a chyngor ariannol dibynadwy, amserol ac ystyrlon i holl wasanaethau a rhanddeiliaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful er mwyn eu helpu i gyflawni’u hamcanion unigol a chorfforaethol, gan gydymffurfio â deddfwriaeth y Llywodraeth i sicrhau y cyflawnir gofynion statudol ariannol.

Cyfrifoldebau

Mae prif gyfrifoldebau’r Adran yn cynnwys:

  • Cydlynu proses gyllidebol flynyddol y Cyngor Bwrdeistref Sirol, gan gynnwys perthynas waith agos â phob gwasanaeth yr Awdurdod. Mae hyn yn cynnwys y Rhaglen Brasamcanion Refeniw a’r Rhaglen Gyfalaf.
  • Datblygu a monitro Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor Bwrdeistref Sirol.
  • Llunio a chynhyrchu datganiadau monitro cyllidebol refeniw a chyfalaf. Paratoir adroddiadau misol ar gyfer Rheolwyr Gwasanaeth a’r Bwrdd Cyllideb ac adroddir ar ddatganiadau chwarterol i gyfarfodydd cyhoeddus ffurfiol Cabinet y Cyngor.
  • Cau cyfrifon ariannol blynyddol y Cyngor gan gynnwys cyhoeddi’r Datganiad Cyfrifon blynyddol. Caiff y ddogfen gyhoeddus hon sy’n amlinellu iechyd ariannol y Cyngor ei gyflwyno i Aelodau etholedig y Cyngor ac mae’n destun craffu gan archwilwyr allanol y Cyngor.
  • Llunio a chyhoeddi Datganiad Polisi Rheoli Trysorfa flynyddol y Cyngor a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol lle caiff gweithgareddau rheoli llif arian y Cyngor, bancio, a thrafodaethau’r farchnad arian a’r farchnad gyfalaf eu diffinio.
  • Cynnal a diweddaru systemau rheoli ariannol, strwythur codio ariannol a system rheoli asedau’r Cyngor.
  • Cwblhau hawliadau grant statudol a llenwi ffurflenni ystadegol ariannol o ran cyrff llywodraethol ac anllywodraethol gan sicrhau bod yr arian posibl mwyaf ar gael i’r Cyngor.
  • Cynrychiolaeth ar Weithgorau Corfforaethol y Cyngor i adrodd ar faterion ariannol, gan gynnwys y Bwrdd Cyllideb a’r Bwrdd Rhaglen Drawsffurfio.
  • Gweinyddu gweithdrefnau ariannu a gweithredu prydlesu cerbydau ac offer y Cyngor.
  • Amddiffyn diogelwch ariannol y Cyngor trwy weinyddu hawliadau yswiriant a gyflwynir yn effeithlon ac yn broffesiynol, gan sicrhau bod gwybodaeth reoli o safon ar gael ar gyfer dadansoddi a sicrhau ymdriniaeth ddigonol yn y strategaeth yswiriant a ddiffinnir.

Cysylltwch â Ni