Ar-lein, Mae'n arbed amser
Hysbysiad - Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Datganiad gohirio archwilio cyfrifon 2023-24
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Rheoliadau cyfrifon ac archwilio 2014 - Hysbysiad
Mae rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful lofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae’n ymwneud â hi ac incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2024.
Nid yw’r Swyddog Cyllid Cyfrifol wedi arwyddo ac ardystio’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024.
Mae Rheoliad 10(2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn ardystiad gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cymeradwyo ac yn cyhoeddi’r datganiad cyfrifon a archwiliwyd. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Gorffennaf 2024.
Mae Llywodraeth Cymry wedi ailystyried yr amserlen ar gyfer paratoi a chyhoeddi Datganiad y Cyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24, nid yw archwiliad datganiad cyfrifon 2023-24 wedi ei gwblhau eto ac nid oes dyfarniad ar yr archwiliad wedi ei darparu. Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn cynnig darpariaeth i awdurdod sy’n gorfod gohirio paratoi a chyhoeddi ei chyfrifon ariannol blynyddol ac yn rhinwedd rheoliad 10 (4) rhaid paratoi hysbysiad a’i gynnwys ar y wefan er mwyn egluro’r rhesymau dros hwn.