Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Rhybudd i Baratoi Datganiad Cyfrifon 2023-24
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 – Hysbysiad
Mae’n ofynnol yn ôl Rheoliad 10(1) Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’u diwygiwyd) fod Swyddog Cyllid Cyfrifol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn arwyddo a dyddio’r datganiad o gyfrifon ac ardystio ei fod yn cynrychioli safbwynt gwir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi, ac o incwm y corff hwnnw a’i wariant ar gyfer y flwyddyn honno. Mae’n ofynnol yn ôl y Rheoliadau bod hyn yn cael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2024.
Nid yw’r Swyddog Cyllid Cyfrifol wedi arwyddo ac ardystio’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024. Oherwydd amgylchiadau eithriadol, mae oedi wedi bod i baratoi datganiad cyfrifon.