Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ymholiadau'r Cyfryngau a Phrotocolau Cyhoeddusrwydd
Mae’r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol yn gyfrifol am holl gysylltiadau cyfryngau a swyddogaethau cyfathrebu marchnata Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Gallwch gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau pwysig sy’n effeithio ar bawb sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r Fwrdeistref Sirol trwy’r dulliau canlynol:
- Gwefan y Cyngor
- Archif y Wasg
- Y wasg leol a rhanbarthol
- Cylchgrawn Cymunedol CONTACT
- Cyfryngau Cymdeithasol – Facebook a Twitter
- Sgriniau plasma yn adeiladau’r Cyngor
Yn yr adran hon dewch o hyd i’r canlynol:
- Cysylltu â’r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol
- Gwybodaeth i Weithwyr Proffesiynol y Cyfryngau
- Ymholiadau’r Cyfryngau a Phrotocolau Cyhoeddusrwydd
- Penderfyniadau’r Cyngor
- Cylchgrawn Cymunedol CONTACT
- Cyfryngau cymdeithasol
- Gofynnwch i Gareth… anfonwch gwestiwn i’r Prif Weithredwr
- Defnyddio logo’r Cyngor
- Ceisiadau am ganiatâd Ffilmio a Ffotograffiaeth
- Cylchgrawn Cymunedol CONTACT
Cysylltu â’r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol
Gallwch gysylltu â’r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol trwy e-bost, dros y ffôn neu drwy’r post:
e-bost: corporate.communications@merthyr.gov.uk
Ffôn: 01685 725166 neu 725052
Post: Cyfathrebu Corfforaethol
Canolfan Ddinesig
Stryd y Castell CF47 8AN
Gwybodaeth i Weithwyr Proffesiynol y Cyfryngau
Bydd gweithio fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer newyddiadurwyr, bydd y tîm yn rhoi gwybodaeth gywir a chytbwys i’w helpu i gyrraedd dyddiadau cau lle bo’n bosibl.
Caiff Datganiadau Cyfryngau eu dosbarthu’n rheolaidd i’n cysylltiadau yn y cyfryngau. Os ydych yn weithiwr proffesiynol yn y cyfryngau a hoffech gael datganiadau rheolaidd gan CBS Merthyr Tudful, llenwch yr e-ffurflen ganlynol: e-ffurflen Am restr lawn o’r holl ddatganiadau i’r wasg, ewch i’r archif newyddion.
Ymholiadau'r Cyfryngau a Phrotocolau Cyhoeddusrwydd
Dylid cyfeirio’r holl ymholiadau'r cyfryngau trwy’r swyddfa Cyfathrebu Corfforaethol a fydd yn cyfeirio’ch ymholiad at yr adran berthnasol a chydlynu’r broses gan ddychwelydd ymatebion atoch trwy e-bost fel arfer.
Os hoffech wneud ymholiad y cyfryngau, e-bostiwch corporate.communications@merthyr.gov.uk gyda manylion am natur eich ymholiad ynghyd â gwybodaeth am ddyddiad cau.
Bydd e-bostio’ch ymholiad yn galluogi’r tîm i gydlynu’r ymateb yn gynt oherwydd y bydd yn lleihau amser prosesu. Fodd bynnag os ydych yn dymuno siarad ag aelod o’r tîm n uniongyrchol ffoniwch:
01685 725166 neu 725052.
Nodwch na ddylai’r cyfryngau fynd yn syth at swyddogion unigol. Caiff cyfathrebiadau’r Llywodraeth Leol eu rheoleiddio gan y Cod Ymarfer Argymelliedig ar Gyhoeddusrwydd yr Awdurdod Lleol.