Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyflogau, Treuliau a Lwfansau
Cyflogau Cynghorwyr
Mae’n rhaid i’r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol lunio Adroddiad Blynyddol sy’n nodi’r math a’r lefelau o daliadau y mae awdurdodau’n gallu neu’n gorfod eu gwneud i’w haelodau ac i aelodau cyfetholedig. Maent hefyd yn galw ar gynghorau i gyhoeddi cwmpas a symiau cyflog a lwfans a delir i gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig:
Cyflogau, treuliau a lwfansau
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, mae pob Cyngor yn cyhoeddi dadansoddiad o faint y mae pob Cynghorydd unigol ac aelod cyfetholedig wedi'i dderbyn:
Lwfans teithio
Cyfraddau lwfans yw:
- Cerbydau modur hyd at 10,000 milltir – 45c y filltir
- Cerbydau modur dros 10,000 milltir – 25c y filltir
- Ychwanegiad teithwyr – 5c y teithiwr y filltir
- Beiciau modur - 24c y filltir
- Beiciau – 20c y filltir
Gall cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig hawlio costau bws, trên a thacsi hefyd. Gellir talu costau gwirioneddol yn unig gyda thaleb talu’n brawf.
Dyletswyddau cymeradwy
Gall cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig hawlio costau teithio am ‘ddyletswyddau cymeradwy’ a ddiffinnir fel a ganlyn:
- presenoldeb mewn cyfarfod yr awdurdod neu unrhyw bwyllgor yr awdurdod neu unrhyw gorff y mae’r awdurdod yn penodi neu’n enwebu iddo neu unrhyw bwyllgor o gorff o’r fath;
- presenoldeb mewn cyfarfod unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae’r awdurdod yn aelod ohoni;
- presenoldeb mewn unrhyw gyfarfod arall y mae’r awdurdod neu bwyllgor yr awdurdod neu gydbwyllgor yr awdurdod wedi’i awdurdodi gydag un neu fwy o awdurdodau eraill;
- dyletswydd a gyflawnir at ddiben neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau gweithredol lle mae awdurdod yn gweithredu trefniadau gweithredol o fewn ystyr Rhan II Deddf Llywodraeth Leol 2000;
- dyletswydd a gyflawnir fel rhan o orchymyn sefydlog sy’n galw ar aelod neu aelodau i fod yn bresennol wrth agor dogfennau tendro;
- dyletswydd a gyflawnir mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaeth yr awdurdod sy’n grymuso’r awdurdod neu’n galw arno i archwilio neu awdurdodi archwiliad safle;
- presenoldeb mewn unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwyir gan yr awdurdod neu’r bwrdd gweithredol;
- unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall o fath y mae’r awdurdod yn ei chymeradwyo, a gyflawnir at ddiben, neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r awdurdod neu unrhyw bwyllgor yr awdurdod. Ni ellir hawlio costau teithio am wneud gwaith yr etholaeth.
Lwfans cynhaliaeth
Mae lwfans cynhaliaeth ar gael am gyflawni dyletswyddau swyddogol oddi cartref.
Y lwfans cynhaliaeth mwyaf yw £28 y dydd (gan gynnwys brecwast os nad yw’n gynwysedig mewn llety dros nos).
Mae’r lwfans sydd ar gael am aros dros nos wrth gyflawni dyletswydd gymeradwy wedi’i osod ar £200 ar gyfer Llundain a £95 ar gyfer llefydd eraill a rhaid cyflwyno talebau talu. Mae uchafswm o £30 ar gael am aros dros nos gyda ffrindiau neu berthnasau ar ddyletswydd gymeradwy.
Gellir hawlio cynhaliaeth am aros dros nos pan gyflwynir talebau talu am gostau a dalwyd yn unig. Ni ellir hawlio cynhaliaeth am ddyletswyddau yn y fwrdeistref sirol.
Ad-dalu Costau Gofal
Mae'n rhaid i'r holl awdurdoau ddarparu ar gyfer ad-dalu costau angenrheidiol ar gyfer gofal am blant ac oedolion dibynnol ac ar gyfer anhenion cymorth personol hyd at uchafswm o £403 y mis. Dim ond ar ôl dangos derbynebau gan y gofalwr y dylid ad-dalu'r costau.
Mae'r ddarpariaeth i ad-dalu costau gofal wedi'i bwriadu i alluogi unrhyw un y byddai ei gyfrifoldebau fel gofalwr yn cyfyngu ar allu i gyfranogi fel aelod o awdurdod i gyflawni ei rôl.
Hawl I Absenoldeb Teuluol
Mae gan aelod etholedig hawl i gadw cyflog sylfaenol wrth gymryd absenoldeb teuluol dan y rheoliadau ni waeth beth oedd ei hanes presenoldeb yn union cyn dechrau'r absenoldeb teuluol.
Pan fo deiliad uwch gyflog yn gymwys i gael absenoldeb teuluol, bydd yn dal i gael y cyflog tra pery'r absenoldeb. Mater i'r awdurdod yw penderfynu a yw'n mynd i benodi rhywun i ddirprwyo ar ran deiliad uwch gyflog sy'n cymryd absenoldeb teuluol yn gymwys i gael uwch gyflog, os yw'r awdurdod yn penderfynu hynny.