Ar-lein, Mae'n arbed amser
Pwyllgorau Craffu
Mae craffu yn derm ymbarél sy’n cwmpasu ystod eang o rolau sydd â chyfrifoldeb deddfwriaethol allweddol amdanynt:
- Gwneud y Cabinet yn atebol
- Adolygu a Datblygu Polisïau
- Adolygu a chraffu perfformiad y Cyngor a helpu i gynnal gwelliannau mewn gwasanaethau
- Craffu allanol
Mae’r pwyllgor trosolwg a chraffu yn swyddogaeth statudol ac mae’n helpu i sicrhau y cyflawnir gwasanaethau cyhoeddus lleol yn effeithlol ac yn effithlon a bod ganddynt ystod eang o rymoedd i ymchwilio i feysydd diddordeb lleol.
Gall y pwyllgor craffu holi’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau, galw ar dystion arbenigol neu glywed tystiolaeth o randdeiliaid eraill. Nid yw ymchwiliadau wedi’u cyfyngu i wasanaethau’r Cyngor, gall cynghorwyr craffu ymchwilio i unrhyw faes sydd o ddiddordeb i’r gymuned leol.
Pwyllgorau Craffu’r Cyngor
Mae gan y Cyngor bum pwyllgor craffu
- Pwyllgor Craffu Adfywio a Diogelu'r Cyhoedd
- Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdogaeth, Chefn Gwlad a Cynllunio
- Pwyllgor Craffu Dysgu a GALL
- Pwyllgor Craffu’r Gwasanaethau Cymdeithasol
- Pwyllgor Craffu Adfywio ac Amddiffyn y Cyhoedd
Cymryd rhan mewn cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu
Mae gan Bwyllgorau Craffu drefniadau i ganiatáu i bobl sy’n byw neu’n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol gymryd rhan yn y gwaith craffu
- Awgrymu topig i’r pwyllgor craffu ymchwilio iddo
- Mynd i gyfarfod
- Mynd i gyfarfod i siarad
- Darparu gwybodaeth a thystiolaeth fel tyst
Gallech wneud cais i ddod yn aelod cyfetholedig o un o Bwyllgorau Craffu'r Cyngor.
Fel aelod cyfetholedig byddwch yn cyfrannu i waith un o Bwyllgorau Craffu’r Cyngor sydd â Chynghorwyr etholedig ag aelodau cyfetholedig eraill. Byddwch yn defnyddio’ch sgiliau a’ch gwybodaeth o faterion a gwasanaethau oddi fewn i’r fwrdeistref sirol er mwyn cyfrannu i’r drafodaeth.
Nid oes cyflog na lwfans ar gyfer y rôl ond ad-dalir costau teithio, lle y credir ei fod yn rhesymol i wneud hynny.
Ni all pwyllgorau craffu:
- Wneud penderfyniadau ar ran y Cyngor
- Craffu penderfyniadau penodol y Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor Trwyddedu a'r Pwyllgor Hawliau Tramwy y mae cyfrifoldebau gwneud penderfyniadau lled-farnwrol ganddyn nhw
- Ymdrin ag ymholiadau, pryderon neu gwynion unigol. Os nad ydych yn fodlon ar wasanaeth neu os oes gennych gwyn, cysylltwch â’r swyddog perthnasol sy’n gyfrifol am y maes gwasanaeth hwnnw. Fodd bynnag, os nad ydych yn gallu datrys yr ymholiad defnyddiwch y drefn gwyno gorfforaethol neu soniwch wrth eich Cynghorydd lleol am y mater.