Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ceisiadau Diogelu Data

Er mwyn cyflwyno Cais Mynediad Gwrthrych llenwch y ffurflen gais Diogelu Data.

Cyn i’r Cyngor brosesu cais mynediad gwrthrych, bydd angen i ni gael y dulliau adnabod canlynol a ffi brosesu gan yr un sy’n gwneud y cais:

  • Cerdyn adnabod â llun (trwydded yrru neu basbort)
  • Bil cyfleustodau diweddar neu lythyr yn cadarnhau’r cyfeiriad

Mae’r Cyngor yn derbyn llungopïau o’r dulliau adnabod uchod. Mae angen prawf adnabod er mwyn osgoi rhoi gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti nad oes hawl ganddo iddi.

Mae gan y Cyngor 1 mis calendr i ymateb i gais mynediad gwrthrych.

Pan fo’r un a wnaeth y cais wedi cael yr wybodaeth, mae’r Ddeddf yn rhoi hawl i’r unigolyn gywiro unrhyw wallau neu ddileu’r wybodaeth bersonol os nad yw’n briodol bellach i’r Cyngor ei chadw.

Mae’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth yn gyfrifol am brosesu’r holl geisiadau a gyflwynir dan y Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol.

Am ragor o wybodaeth am sut i gyflwyno cais mynediad gwrthrych edrychwch ar y Polisi Cais Mynediad Gwrthrych.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am gynhyrchu arweiniad sy’n ymwneud â cheisiadau am wybodaeth. Ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth am ragor o wybodaeth, https://ico.org.uk/for-the-public/

Cysylltwch â Ni