Ar-lein, Mae'n arbed amser
Sut gallwch chi wneud gwahaniaeth
Beth allwch chi wneud i helpu
Trafnidiaeth
- Cerddwch neu defnyddiwch feic, os gallwch. Mae hyn yn lleihau allyriadau carbon
- Ystyriwch newid i ddefnyddio cerbyd trydan neu hybrid os ydych yn newid eich car gan fod hyn yn arbed 2 dunnell o garbon y flwyddyn. Os na allwch fforddio hyn, dewiswch gerbyd petrol neu ddisl mwy effeithlon, gall hyn arbed 0.9 tunnell o CO2 y flwyddyn.
- Meddyliwch sut mae eich arferion teithio wedi newid yn ystod y cyfnod clo, a gwnewch ymdrech i barhau â’r arferion hyn.
- Bwytwch fwyd ffres wedi ei gynhyrchu yn lleol, gan fod hyn yn lleihau allyriadau carbon wrth brosesu, storio a chludo bwyd.
Bwyd a diod
- Peidiwch roi eitemau poeth yn yr oergell neu rewgell. Os ydych yn gadael iddynt oeri cyn eu rhoi yn yr oergell, mae angen llai o ynni ar eich oergell. Oergelloedd yw un o’r defnyddwyr ynni mwyaf yn y cartref, felly mae unrhyw arbedion o les.
- Glanhewch eich oergell yn fwy aml. Gallwch leihau eich defnydd o ynni trwy wagio'r oergell o fwyd nad ydych am ei fwyta. Pan fo bwyd yn yr oergell mae yn defnyddio ynni a lle. Gwagiwch eich oergell yn wythnosol, ond peidiwch ei gadael yn rhy wag, achos bydd yn cael trafferth cadw tymheredd oer.
- Y ffordd fwyaf effeithlon o goginio yw defnyddio top y stôf neu ficrodon.
- Ceisiwch dyfu eich ffrwythau, llysiau a pherlysiau gartref.
- Ceisiwch fwyta llai o gig neu fod yn llysieuwr neu figan. Mae lleihau faint o gig a chynnyrch llaeth rydych yn bwyta yn lleihau allyriadau carbon.
Dŵr
- Ystyriwch gael paneli solar PV neu ddŵr poeth solar gartref
- Defnyddiwch botel ddŵr y gallwch ei ail-ddefnyddio. Mae cynhyrchu plastig yn defnyddio llawer o allyriadau carbon. Trwy ddefnyddio potel y gallwch ei ail ddefnyddio byddwch yn lleihau eich ôl troed dŵr a charbon.
Gwastraff
- Rhowch eitemau nad ydych eisiau i rywun sydd ei hangen neu i sefydliad. Gall yr eitemau hyn gael eu hail ddefnyddio neu eu rhoi i rywun sydd eu hangen.
- Lleihau, Ail-ddefnyddio, Ailgylchu. Gall hyn gynnwys ailgylchu hen ddillad. Trwy leihau eich gwastraff ac ailgylchu mwy, gall yr allyriadau o dy cyffredin leihau o 0.25 tunnell y flwyddyn.
- Ystyriwch gompostio bwyd heb ei goginio fel parion llysiau a ffrwythau yn yr ardd yn hytrach na defnyddio gwasanaeth compostio'r cyngor. Rhaid rhoi bwyd sydd wedi ei goginio sy’n wastraff yn y biniau gwastraff bwyd.
Yr amgylchedd a thai
Gwiriwch insiwleiddio yn y loft ar ddrysau a ffenestri i leihau colli gwres. Os ydych yn rhentu gwiriwch fod y landlord yn ymwybodol o gadw'r adeilad yn ynni effeithiol.
- Newidiwch i dariff ynni gwyrdd. Mae hyn yn golygu newid i ddarparwr sydd yn defnyddio ynni adnewyddadwy fel gwynt a solar. Gall hyn leihau allyriadau gymaint â 79% gan arbed 1.25 tunnell o garbon y flwyddyn.
- Ystyriwch faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio. Allwch chi ddefnyddio llai o rywbeth neu ddiffodd peiriant. Gall droi'r gwres o un radd Celsius arbed 3% ar eich bil ynni.
- Gwnewch fwy o ddefnydd o’r ardd trwy dyfu ffrwythau neu lysiau yn hytrach na glaswellt ffug, concrid neu lawr pren.
Ynni
- Gall mesurydd deallus eich helpu i ddeall a gwella eich defnydd chostau ynni.
- Wrth sychu dillad defnyddioch lein yn hytrach na pheiriant sychu dillad.
Isadeiledd gwyrdd
- Gwnewch eich gardd yn fwy adnewyddadwy trwy blannu coed a gwrychoedd.
- Ymunwch â grŵp gwirfoddoli Caru Lle Rwy’n Byw er mwyn helpu yn eich cymuned.