Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tir a Bioamrywiaeth

Beth mae’r Cyngor yn ei wneud?

Did you know?

Mae 16 o’n safleoedd glaswelltir, ledled y Fwrdeistref Sirol yn awr yn cael eu rheoli gan ein peiriannau torri a chasglu newydd  a brynwyd gan grant Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘Lleoedd Lleol Cymru ar gyfer Natur’ (LlLlCagN.) Mae hyn yn golygu fod  4.5 hectar o laswelltir yn awr yn cael eu rheoli ar gyfer bioamrywiaeth yn unig. Mae hynny’n cyfateb i oddeutu 8 cae pêl-droed. Efallai y gwelwch rhai o’n harwyddion yn yr ardaloedd hyn yn dynodi ein bod yn rheoli’r ardaloedd ar gyfer peillyddion a blodau gwyllt. Bydd y mesurau newydd yn gymorth i amddiffyn peillyddion a dod â natur yn ôl i stepen ein drws.

Tractor in a field

Mae nifer o brosiectau, yn ogystal sydd yn ymwneud â thir a bioamrywiaeth y mae’r Cyngor yn eu gweithredu er mwyn lleihau allyriadau carbon.

LlLlCagN yn gwneud Stâd Gyhoeddus yn fwy gwyrdd

Bydd y prosiect yn cynnwys ardaloedd bach o laswelltir sydd yn weledol/hygyrch i’r cyhoedd, ledled y Fwrdeistref Sirol sydd yn cael eu rheoli’n ddwys gan Adran Barciau CBSMT.

Bydd peiriannau torri a chasglu’n cael eu prynu a’u defnyddio er mwyn rheoli'r gwelltiroedd hyn a hynny mewn ffordd newydd er mwyn gwella bioamrywiaeth a darparu Gweoedd Llesol o Flodau Gwyllt, ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd yr ardaloedd yn cynnig ased gyfalaf, naturiol ac yn fuddiol i bobl a bywyd gwyllt Merthyr Tudful. Bydd y gwelliant hwn i’r amgylchedd naturiol yn cael eu profi gan bobl o’u stepen drws a hefyd wrth iddynt deithio o amgylch eu hardaloedd lleol.  

Natur LlLlCagN ar stepen eich drws

Creu lle sengl, newydd ar hen safle’r cwrs tenis yn Nhroedyrhiw. Bydd natur y gwaith yn cynnwys adfer y tir er mwyn rhoi mynediad ac arddangos amrywiaeth eang o blanhigion amrywiol sy’n tyfu mewn swbstrad heb lawer o faeth o dan arwyneb yr hen gwrt tenis.  Bydd yr ardaloedd a fydd yn cael eu plannu yn cael eu hamgylchynu a’u cydgysylltu gan fyrddau dehongli, gwaith celf a chyfleoedd i ddarparu adnoddau ar gyfer bwriadau gwirfoddol ac addysgol. Bydd yr ardd arfaethedig yn ased i’r gymuned leol, o fudd i ysgolion lleol ac i ymwelwyr. Bydd y prosiect yn cynyddu gwerth y parc fel adnodd hamdden ac yn rhoi gwerth i fwynhad a phrofiad yr ymwelydd. Rhagdybir y bydd y prosiect hefyd yn denu ymwelwyr i’r ardal leol ac y  bydd o fudd i’r economi leol.

Y Gronfa Her

Yn ddiweddar, cafwyd problemau draenio ar gaeau Ysbyty Tywysog Cymru. Fel rhan o’r gronfa her, rydym yn manteisio ar y gwylyptir er mwyn cynyddu amrywiaeth o ran blodau. Byddai arallgyfeirio drwy gyflwyno amrywiaeth ehangach o blanhigion brodorol yn ymestyn y tymor ac yn cynyddu’r nifer o bryfed. Bydd cyfle i greu cyfres o byllau a fydd yn creu cyrff bychan o ddŵr bas, agored. Bydd y cyrff dŵr yn cyd-fynd â llwybrau a fydd wedi’u codi ac a fydd yn rhoi boddhad i’r llygad ac yn osgoi unrhyw niwed uniongyrchol. Bydd cyfleoedd yn cael eu creu i blannu amrywiaeth o rywogaethau ymylol fel blodau’r brwyn,  acorus calamus, llysiau’r dryw a’r byddon chwerw. Fel rhan o’r cynllun, bydd gwaith rheoli a chynnal a chadw’n cael eu gwneud o’r coed aeddfed yn y gogledd a bydd mwy o goed a llwyni ar y safle. Bydd ardaloedd tyfu, cymunedol yn cael eu creu i’r gymuned leol eu defnyddio fel ardal dyfu. 

LlLlCagN

Mae’r gronfa i’w defnyddio gan aelodau Partneriaeth Bioamrywiaeth Merthyr Tudful i wella prosiectau sydd yn ymwneud â bioamrywiaeth.

Prosiec Park Alive / Y Parc Byw

Dechreuodd prosiect y Parc Byw / Park Alive ym mis Medi 2019 a chafodd ei gwblhau ym Medi 2021. Mae’r prosiect yn cynnwys pum parc yn y fwrdeistref ac yn ceisio darparu amrywiaeth o welliannau amgylcheddol a gweithgareddau er mwyn rhoi ymdeimlad o falchder i bob parc.  Bydd y prosiect yn adfer treftadaeth goll, rhannu sgiliau ac yn ymdrin â phroblemau seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth. Gobeithir y bydd sgiliau’n cael eu trosglwyddo i gymunedau drwy gyfres o ddigwyddiadau er mwyn denu rhagor o ddiddordeb. Bwriad y prosiect yw cyflawni grŵp cyfeillion y parciau. 

Cysylltwch â Ni