Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
Ein nod yw sicrhau fod yr holl ddogfennau a gynyrchir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful at ddefnydd y cyhoedd yn ddwyieithog Cymraeg/Saesneg, yn unol â gofynion cenedlaethol Safonau’r Gymraeg.
Mae cyfieithu yn cael ei wneud gan Menter Iaith Merthyr Tudful yng Nghanolfan Soar ym Mhontmorlais.
Gwasanaethau Cyfieithu ar y Pryd
Mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i gwsmeriaid y mae angen cymorth iaith a chyfathrebu arnyn nhw i fanteisio ar wasanaethau’r Cyngor.
Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu gwasanaethau’r Cyngor megis tai, ysgolion a gwaith cymdeithasol, i ddeall ein cwsmeriaid:
- Os nad ydych yn gallu siarad Saesneg
- Os Saesneg yw eich ail iaith ac mae’ch apwyntiad yn ymwneud â thrafod materion cymhleth y mae i chi eu deall
- Os oes gennych nam gweledol neu glywedol
Mae’r Cyngor wedi cofrestru â’r Llinell Iaith. Mae’r gwasanaeth ar gael trwy ffôn yn ein derbynfa ac mae ar gael o unrhyw ddesg gyda chymorth aelod o staff.
Dywedwch wrth ein staff os oes angen cymorth iaith neu gyfathrebu arnoch wrth drefnu’ch apwyntiad.