Ar-lein, Mae'n arbed amser

Iaith Gymraeg

Safonau’r Gymraeg

Gwnaeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gymryd lle Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd yng Nghmru mae gan yr iaith Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal â’r Saesneg a rhaid peidio â’i thrin yn llai ffafriol. Nid oes angen i gyrff cyhoeddus ddatblygu a gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg bellach ond yn hytrach rhaid iddynt gydsynio â set cenedlaethol o Safonau’r Gymraeg.

Derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ei Hysbysiad Cydymffurfio terfynol oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg ar 30 Medi 2015. Roedd hwn yn amlinellu dyletswydd y Cyngor i fodloni 171 o Safonau’r Gymraeg statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Y dyddiad gweithredu ar gyfer y rhan fwyaf o’r Safonau yw 30 Mawrth 2016 gyda’r gweddill erbyn 30 Medi 2016 a 30 Medi 2017.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r Safonau, byddwn yn gweithredu Cynllun Gwella Parhaus, a fydd yn golygu monitro ein perfformiad yn fewnol ac allanol yn erbyn y Safonau. Pan fyddwn yn gweld bod risg o beidio â chydymffurfio, byddwn yn paratoi ac yn darparu ymarferion hyfforddi sgiliau ac ymarfer ymwybyddiaeth priodol. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cofnodi yn ein hadroddiad blynyddol.

Adroddiad Blynyddol

Mae’n ofynnol bod y Cyngor yn adrodd yn ôl yn flynyddol ar ei gynnydd o ran cydsynio â Safonau’r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn.

Gellir gweld Adroddiad Monitro Blynyddol  Iaith Gymraeg y Cyngor ar waelod y dudalen hon o dan rhagor o wybodaeth.

Strategaeth Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg

Mae Safon 145 o Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gynhyrchu Strategaeth Hyrwyddo Iaith Gymraeg bum mlynedd sy’n dangos sut y byddwn yn tyfu neu'n cynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.

Cymeradwywyd y Strategaeth gan y Cyngor Llawn ar 5 Ionawr 2022 a gellir ei weld ar waelod y dudalen hon o dan ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â Ni