Ar-lein, Mae'n arbed amser

Am Y Maer Gwreiddiol

Y Cynghorydd John Thomas, Maer Merthyr Tudful 2024/2025

Etholwyd y Cynghorydd John Thomas yn Faer Merthyr Tudful yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, Ddydd Mercher 15 Mai 2024 a bydd yn disodli’r Cynghorydd Malcolm Colbran fel Dinesydd Cyntaf y Fwrdeistref Sirol.

Mae’n ŵr i Debbie, tad i Gareth, Emma, Nathan a Rachel a Thad-cu i naw o wyrion. Cafodd John ei eni a'i fagu yn Allt y Briallu, Twynyrodwyn.

Yn gyn-weithiwr yn Hoover, roedd John hefyd yn berchennog busnes balch am dros 25 mlynedd fel perchennog Twyn Cars.

Mae John wedi bod yn Gynghorydd Ward y Dref ers 2017. Meddai: "Byddwn bob amser yn gofyn cwestiynau i gynghorwyr lleol yn fy ward wrth iddynt gael diod gyda'i gilydd - gallech ddweud fy mod yn eu poenydio - felly meddyliais yn lle gofyn cwestiynau a beirniadu, byddwn yn rhoi cynnig arni fy hun.

"Diolch i drigolion Ward y Dref am roi eu ffydd ynof a dyma fi 7 mlynedd yn ddiweddarach."

Wedi ymddeol yn ddiweddar, mae John yn chwaraewr dartiau yng Nghynghrair Merthyr ac yn gefnogwr pêl-droed brwd. Mae wedi bod yn ddyfarnwr ers tua 16 mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n Drysorydd Cymdeithas Dyfarnu Merthyr Tudful. Yn ystod ei yrfa fel dyfarnwr, cyrhaeddodd yr uchelfannau fel Llinellwr yng Nghynghrair Cymru - rhywbeth y mae'n hynod falch ohono.

Pan ofynnwyd iddo beth mae dyfod yn Faer yn ei olygu iddo, dywedodd: "Mae'n anrhydedd ac yn fraint fawr cael bod yn Faer. Mae'r parch sydd gan bobl a'r ffordd mae nhw'n eich trin yn arbennig! Rwyf am wneud trigolion Merthyr Tudful yn falch."

Cydymaith John ar gyfer blwyddyn ddinesig 2024-25 yw ei wraig, Debbie Thomas.

Bydd dyletswyddau'r Maer newydd yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd llawn y Cyngor a chynrychioli'r awdurdod mewn achlysuron ffurfiol a seremonïol, ledled y Fwrdeistref Sirol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Bydd hefyd yn croesawu ymwelwyr i Ferthyr Tudful ac yn mynychu a chefnogi digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol. 

Mae John wedi dewis cefnogi dwy elusen leol:

Uned Dementia Tŷ Enfys, sy'n dal llawer o atgofion i deulu John: "Fe wnaeth fy nhad yng nghyfraith fynychu'r uned flaenorol am 13 mlynedd ac mae'r gwaith a'r gofal y mae'r staff yn eu cynnig yno yn anhygoel."

Hope Pantry. Meddai John: "Ar ôl ymweld â Hope Pantry sawl gwaith a gweld y gwaith anhygoel roedd Heidi a'i thîm o wirfoddolwyr yn eu gwneud,  roeddwn yn teimlo ei fod yn haeddu cefnogaeth gan elusen y maer eleni."

Y Dirprwy Faer am y flwyddyn nesaf yw aelod Ward Dowlais a Pant, y Cynghorydd Paula Layton a'i Chydymaith fydd ei phartner, y Cynghorydd Declan Sammon.

Os hoffech wahodd y Maer i ddigwyddiad neu gyfrannu at apêl y Maer, cysylltwch â mayoral@merthyr.gov.uk

 

Cysylltwch â Ni