Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwybodaeth am Elusennau’r Maer

Mae’r Maer, y Cynghorydd John Thomas wedi dewis cefnogi dwy elusen leol ar gyfer Apêl y Maer eleni.

Maent yn:

Uned Dementia Tŷ Enfys, sy'n dal llawer o atgofion i deulu John: "Fe wnaeth fy nhad yng nghyfraith fynychu'r uned flaenorol am 13 mlynedd ac mae'r gwaith a'r gofal y mae'r staff yn eu cynnig yno yn anhygoel."

Hope Pantry. Meddai John: "Ar ôl ymweld â Hope Pantry sawl gwaith a gweld y gwaith anhygoel roedd Heidi a'i thîm o wirfoddolwyr yn eu gwneud,  roeddwn yn teimlo ei fod yn haeddu cefnogaeth gan elusen y maer eleni."

Os hoffech gysylltu â Swyddfa’r Maer neu gyfrannu at Apêl y Maer cysylltwch â mayoral@merthyr.gov.uk neu i gyfrannu’n uniongyrchol defnyddiwch y ddolen ganlynol:

Cysylltwch â Ni