Ar-lein, Mae'n arbed amser
Am y Maer Ieuenctid
Bob blwyddyn mae Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Merthyr Tudful yn ethol Dirprwy Faer Ieuenctid wrth i’r Dirprwy blaenorol gael ei urddo’n swyddogol i swydd lawn y Maer Ieuenctid.
Gyda chymorth swyddogion, bydd cyfrifoldebau’r Maer Ieuenctid, yn ogystal â rolau a chyfrifoldebau aelodau’r cabinet ieuenctid yn cynnwys:
- Dod yn Brif Ddinesydd Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Bod yn llais yr holl blant a’r bobl ifanc ym Merthyr Tudful
- Cysgodi’r Maer mewn nifer o ddyletswyddau Dinesig a gytunwyd ymlaen llawn, gan gynnwys y Gwasanaeth Carolau Dinesig; cyfarfod cyffredinol blynyddol y cyngor ac urddo’r Maer; Sul Dinesig; Sul y Cofio ac unrhyw achlysur priodol arall
- Mentora a chefnogi’r Dirprwy Faer Ieuenctid yn barod i gymryd y swydd
- Enwebu elusen flynyddol o’i ddewis
Er mwyn sefyll am swydd y Dirprwy Faer Ieuenctid, neu i gymryd rhan yn y pleidleisio, rhaid i unrhyw berson ifanc fod yn aelod cofrestredig o MTBWYF.
Cred y fforwm ieuenctid y dylid rhoi cyfle i gymaint o bobl ifanc â phosib i gael profiad o gyfrifoldeb Bywyd Dinesig, felly gall aelodau MTBWYF fod yn Ddirprwy Faer Ieuenctid/Maer Ieuenctid ddwywaith yn unig gydag o leiaf 2 flynedd rhwng y ddau dro.
Ein nod ym Merthyr Tudful yw bod pob person ifanc yn ymwybodol o weledigaeth MTBWYF “Eich llais, eich dewis!” “Rhoi Hawl i Bob Plentyn a Pherson Ifanc i Gael ei Weld a’i Glywed”.
Cred y Cabinet Ieuenctid y dylid ymgynghori â phlant ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Ym Merthyr Tudful rydym yn ymrwymedig i egwyddor grymuso Plant a Phobl Ifanc o ran sut rydym yn cyflwyno ein holl wasanaethau i Blant a Phobl Ifanc – dyma pam rydym yn gwbl ymrwymedig i swydd a safle’r maer Ieuenctid.