Ar-lein, Mae'n arbed amser

Fforwm Ieuenctid Ledled Bwrdeistref Merthyr Tudful

 

 

Enillwyr Gwobr yr Uchel Siryf

Roedd pobl ifanc o bob rhan o Forgannwg Ganol yn bresennol yn noson gyflwyniad Gwobr yr Uchel Siryf diweddar. Cynhaliwyd y seremoni ar 22 Mawrth, 2018, yn Ortho Clinical Diagnostics, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mynychodd y Maer Ieuenctid Jenna Noble a’r Dirprwy Faer Ieuenctid Krystian Maciejczyk, o Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y digwyddiad, ynghyd a llawer o bobl ifanc eraill o'r fwrdeistref.

Roedd gan y bobl ifanc o Ferthyr, lawer i'w ddathlu ar y noson, gan ennill gwobrwyon yn y categorïau canlynol:

Categori Cyffredinol - Cwpan Gwerthfawr yr Uchel Siryf

Fforwm Ieuenctid Bro Merthyr Tudful Ehangach, ar gyfer eu prosiect Iechyd Meddwl, Cymorth Cyntaf

Prosiectau

Y Wobr Gyntaf

Fforwm Ieuenctid Bro Merthyr Tudful Ehangach, ar gyfer eu prosiect Iechyd Meddwl, Cymorth Cyntaf

Ail Wobr

Clwb Bechgyn a Merched Georgetown, am eu prosiect Cerddoriaeth Fawr

Categori unigol

Ail Wobr

Lauren Davies, cyn Faer Ieuenctid

Dywedodd y Maer Ieuenctid, Jenna, ei bod hi'n falch o weld cymaint o bobl ifanc a phrosiectau haeddiannol yn ennill gwobrau.

Cefnogwyd y bobl ifanc yn y digwyddiad gan y Dirprwy Faer y Cynghorydd Clive Tovey, y Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Lisa Mytton, yr Hyrwyddwr Plant y Cynghorydd Chris Davies a Chris Hole, pennaeth Lles y Gymuned

Cysylltwch â Ni