Ar-lein, Mae'n arbed amser
Strafagansa Gerddorol
Mae Rhagras Merthyr Tudful ar gyfer Strafagansa Gerddorol Uchel Siryf Morgannwg Ganol yn cael ei drefnu ledled siroedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r Strafagansa’n cael ei drefnu i arddangos y dalent anhygoel sy’n bodoli ymhlith pobl ifanc ledled Cymoedd de Cymru, yn ogystal ag i godi peth arian yn lleol ar gyfer elusen ddewisol y Maer, sef Canser Macmillan ac elusen ddewisol y Maer Ieuenctid sef Yr Orsaf Roddi; ac yn rhanbarthol gydag elusen ddewisol yr Uchel Siryf, sef Llamau, sy’n rhoi cymorth i Ieuenctid Digartref.
Bydd Rhagras Merthyr Tudful o’r Strafagansa Gerddorol yn cael ei chynnal yng Nghlwb Cymdeithasol Penydarren ddydd Iau 28 Tachwedd 2019 o 6.30pm. Bydd enillwyr Rhagras Merthyr Tudful yn ymuno â phobl ifanc ledled Pen-y-bont ar Ogwr a RhCT yn y Rownd Derfynol sydd i’w chynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd ddydd Sul 16 Chwefror 2020.
Cliciwch yma am lythyr gwybodaeth.
Cliciwch yma am y ffurflen gais.