Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyngor Iechyd Cymuned (CIC)
Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) Cwm Taf Morgannwg yw corff gwarchod annibynnol gwasanaethau’r GIG ar draws Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r CIC yn cynnwys tîm bychan o staff ac aelodau gwirfoddol.
Mae gan Gyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg 4 prif swyddogaeth:-
- Ymweld â gwasanaethau iechyd lleol a chraffu arnynt Ymweld yn systematig
- Ymgysylltu'n barhaus â'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli a'r darparwyr gwasanaethau iechyd sy'n gwasanaethu'r cymunedau hynny. (Gan gynnwys cael adborth trwy arolygon profiad cleifion ar-lein).
- Cynrychioli buddiannau cleifion a'r cyhoedd wrth gynllunio a chytuno ar newid i wasanaethau'r GIG
- Galluogi defnyddwyr y GIG i godi pryderon am y gwasanaethau a gânt drwy Eiriolwr Cwynion Annibynnol
I ddarganfod mwy am eich corff gwarchod GIG annibynnol leol ac i rannu eich profiad GIG, ewch i http://cwmtafmorgannwgcic.gig.cymru/