Ar-lein, Mae'n arbed amser

Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor (FABC)

Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor

Adroddiad Blynyddol ar 'Y Gwasanaethau Cymdeithasol’ 2015 / 2016 

Bydd yr ymgynghoriad yn digwydd rhwng 4 a'r 30 Ebrill 2016. 

Dros y 9 mis diwethaf,rydym wedi bod yn cynnal adolygiad er mwyn canfod pa mor effeithiol yr ydym wedi bod yn darparu a gwella ein Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant yn ystod 2015 /2016. 

Yn dilyn y cyfnod adolygu hwn, mae'r Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol (Cyfarwyddwr Statudol) wedi cynhyrchu adroddiad drafft sy'n nodi: 

  • Pa mor dda yr ydym yn credu ein bod yn diwallu anghenion y gymuned (yn seiliedig ar y dystiolaeth yr ydym wedi ei chasglu);
  • Ein cryfderau a llwyddiannau allweddol;
  • Blaenoriaethau allweddol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus. 
Beth mae'r ymgynghoriad yn ymdrin ag ef?

Cyn y gall y Cyfarwyddwr gwblhau'r adroddiad terfynol, rydym eisiau ymgynghori gyda'n dinasyddion, staff, sefydliadau partner a phartion eraill â diddordeb, er mwyn canfod a ydych yn cytuno gyda chynnwys yr adroddiad.

Adroddiad Blynyddol ar 'Y Gwasanaethau Cymdeithasol' 2015 -2016 Drafft 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Unwaith i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd yr holl adborth a dderbyniwyd yn cael ei ystyried yn ofalus a'i ddefnyddio i helpu'r Cyfarwyddwr i gwblhau ei adroddiad terfynol. Bydd yr Adroddiad Blynyddol ar 'Y Gwasanaethau Cymdeithasol' ar gael i'r cyhoedd erbyn Awst 2016.

 

Cysylltwch â Ni