Ar-lein, Mae'n arbed amser
Adolygiad o Drefniadau Cymunedol
Beth yw Adolygiad Cymunedol?
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ddyletswydd statudol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, i fonitro’r cymunedau o fewn y sir, a threfniadau etholiadol y cymunedau hynny. Rhaid iddo hefyd gynnal ‘adolygiadau cymunedol’ pan fo’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol, neu pan ystyrir ei bod yn briodol. Wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn, rhaid i’r Cyngor barhau i sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus
.
Mae dau fath o adolygiad cymunedol y gall y Cyngor eu cynnal:
1. Adolygiad o Ffiniau Cymunedol (o dan adran 25 o’r Ddeddf)
Adolygiad o ffiniau un neu fwy o gymunedau i sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu hunaniaeth yr ardal dan sylw ac yn hwyluso llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Gall newidiadau i ffiniau cymunedol gynnwys newidiadau i ffin cymuned bresennol, neu ddiddymu cymuned bresennol a chreu cymuned newydd.
2. Adolygiad o Drefniadau Etholiadol (o dan adran 31 o’r Ddeddf)
Mae hyn yn cynnwys edrych ar y trefniadau etholiadol o fewn cymuned benodol, sy’n golygu ystyried y sefyllfa mewn perthynas â wardiau a nifer y cynghorwyr. Wrth gynnal adolygiad o’r fath gall y Cyngor edrych ar:
- nifer yr aelodau o’r cyngor ar gyfer y gymuned;
- y rhaniad i wardiau (os yw’n briodol) at ddibenion ethol cynghorwyr;
- nifer a ffiniau unrhyw wardiau;
- enw unrhyw ward;
- nifer yr aelodau i’w hethol ar gyfer unrhyw ward;
Dywedwch eich dweud
Fel rhan hanfodol o’r adolygiad hwn, mae’r cyngor wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos i gasglu barn ar ei Gylch Gorchwyl. Dilynwch yr arolwg isod i ddweud eich dweud