Ar-lein, Mae'n arbed amser

Loading...

Gwybodaeth am y nwyddau

Trosolwg

Gallwch nawr roi dillad a thecstilau diangen allan i'w hailgylchu ar yr un diwrnod â'ch ailgylchu. Rhowch y dillad glân, sych, tecstilau ac esgidiau mewn bag siopa neu fag gwyn ochr yn ochr â'ch cynwysyddion ailgylchu eraill.

Peidiwch â defnyddio sachau du neu sachau elusen gan na fyddwn yn gallu casglu'r rhain.

Rhowch allan eich dillad diangen, esgidiau (mewn parau), bagiau a gwregysau a llenni. Nid ydym yn gallu casglu unrhyw garpedi, duvets, clustogau, gobenyddion na sachau cysgu.

Cwestiynau Cyffredin

  • Ailgylchwch yr holl ddillad ac esgidiau mewn bag clir neu siopa
  • Dim bagiau elusen na bagiau du

Cost: Am Ddim