Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ffurflen Gais Cyfle Cyfartal

Rhagymadrodd

Os ydym am barhau i fod yn llwyddiannus fel cyflogwyr cyfleoedd cyfartal mae angen i ni sicrhau’n barhaus nad ydym ni’n gwahaniaethu’n anfwriadol yn erbyn unigolion beth bynnag y bo eu Hoedran, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Beichiogrwydd/mamolaeth, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, Priodas a Phartneriaeth Sifil. Er mwyn gwneud hynny mae angen i ni fonitro ac adrodd yn rheolaidd ar ystod o weithgareddau a phrosesau

Mae’r wybodaeth y gofynnwn amdani isod i’r perwyl hwn yn unig. Caiff yr wybodaeth unigol gennych ei chadw’n gyfrinachol ac ni chaiff ei rhannu. Caiff yr wybodaeth gyfunedig ei defnyddio’n rheolaidd i gynhyrchu adroddiadau dienw fel rhan o’r broses fonitro a ddisgrifir uchod ac i gyflawni ein gofynion cyfreithiol i adrodd ar niferoedd y gweithwyr yn ôl oedran, rhyw, tarddiad ethnig, rhywioldeb, anabledd a chrefydd.

Mae ein gallu parhaus i ddarparu cyflogaeth cyfle cyfartal yn dibynnu arnom ni’n derbyn yr wybodaeth angenrheidiol gennych chi. Felly rydym yn erfyn arnoch i lenwi’r ffurflen fonitro amgaeedig yn llawn.