Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ffurflen Gwybodaeth Atodol Ysgol Gatholig Sant Carlo Acutis 2026/2027

Cyflwyniad

The Archdiocese of Cardiff-Menevia

ARCHESGOBAETH CAERDYDD-MYNYW

YSGOL GATHOLIG SANT CARLO ACUTIS

Ffurflen Gwybodaeth Atodol
2026/2027

Os ydych chi'n mynegi ffafriaeth am le i'ch plentyn yn Ysgol Gatholig Sant Carlo Acutis ym Merthyr Tudful ac yn dymuno gwneud cais o dan faen prawf ffydd, dylech lenwi'r Ffurflen Wybodaeth Atodol hon.

  • Dylid dychwelyd y Ffurflen Wybodaeth Atodol wedi'i chwblhau, ynghyd â'r holl ddogfennau ategol (gweler y Nodiadau isod), at Nicola James yn yr ysgol erbyn y dyddiad cau Ionawr 15fed 2027 ar gyfer lle cynradd neu Hydref 31ain 2026 ar gyfer lle uwchradd.
  • Os ydych chi'n gwneud cais i fwy nag un ysgol Gatholig, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gwybodaeth Atodol ar wahân ar gyfer pob ysgol.
  • Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol yn y ffurflen hon a'i dychwelyd i'r ysgol, gyda'r holl ddogfennau ategol, erbyn y dyddiad cau, efallai na fydd eich plentyn yn cael ei roi yn y categori ffydd priodol a gall hyn effeithio ar siawns eich plentyn o gael cynnig lle.
  • Cofiwch – rhaid i chi hefyd lenwi'r Ffurflen Gais ALl.