Ar-lein, Mae'n arbed amser

Carden Dynodiad Defnyddiwr Gofalwyr Ifanc

Cyflwyniad

Pwy all wneud cais?

  • Rhieni/ gofalwyr y gofalwyr ifainc
  • Cyfeirwyr Dibynadwy’r gofalwyr ifainc

Pwy all fod yn Gyfeirydd Dibynadwy?

Fel arfer mae Cyfeirwyr Dibynadwy yn bobl broffesiynol sy’n adnabod y Gofalwr / Gofalwraig Ifanc ac sy’n gallu cadarnhau eu bod yn gymwys i wneud cais am garden Gofalwyr Ifainc. Gall Cyfeirwyr Dibynadwy weithio mewn ystod o asiantaethau yn cynnwys ysgolion, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid ac iechyd.

Er mwyn bod yn gymwys i gael bathodyn Dynodiad Defnyddiwr Gofalwyr Ifainc rhaid eich bod:

  • A chyfrifoldeb gofal dros riant/ gofalwr/ frawd neu chwaer.
  • Yn iau na deunaw mlwydd oed
  • Yn byw o fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Beth sydd angen i mi ei wneud er mwyn ymgeisio?

  • Manylion personol y gofalwr/ gofalwraig ifanc, yn cynnwys dyddiad geni
  • Manylion personol y person sy’n derbyn gofal gan y gofalwr/ gofalwraig ifanc, yn cynnwys dyddiad geni.
  • Llun ar ffurf llun pasbort o’r gofalwr / gofalwraig ifanc (gallwch gymryd y llun ar eich ffôn neu ar ddyfais arall):

Sicrhewch fod y llun:

  • Yn llun lliw diweddar
  • Yn llun o’r person ifanc ar ei ben/ei phen ei hun (heb unrhyw un arall a heb anifail anwes)
  • Wedi ei gymryd yn erbyn cefndir golau
  • Yn dangos y Gofalwr / Gofalwraig Ifanc yn wynebu’r blaen gyda’r pen a’r ysgwyddau ill dau yn y llun
  • Yn dangos yr wyneb yn gyflawn

Y modd yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i ddiogelu eich hawliau preifatrwydd. Byddwn yn defnyddio eich manylion at ddefnydd cyfreithiol yn unig. Os hoffech wybod sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol darllenwch ein rhybudd preifatrwydd ar ein gwefan. Os oes gennych unrhyw bryderon neu eisiau gwybod mwy am gydymffurfio â diogelu data cysylltwch â’r swyddog Diogelu Data ar 01685 725000 neu data.protection@merthyr.gov.uk.