Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hysbysiad Preifatrwydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Ein Hymroddiad i’ch Preifatrwydd

Mae eich ymddiriedaeth yn bwysig i ni. Felly rydym am i chi wybod ein bod wedi diweddaru ein Hysbysiad Preifatrwydd i esbonio sut ydym yn casglu, storio a delio â’ch data personol.

Pam ydym yn casglu’ch data

Rydym am ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i chi ar draws holl adrannau’r Cyngor. Yn hynny o beth bydd y data yr ydych yn ei ddarparu i ni yn ein galluogi ni i ddarparu’r gwasanaethau personol yr ydych yn gofyn amdanynt.

Sut ydym yn casglu eich data

Gwnawn hyn mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys ble y rhannwch wybodaeth gyda ni, fel pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein am wasanaethau neu gwblhau ffurflen. Rydym yn ei drin â’r gofal mwyaf ac yn dilyn y camau priodol i’w ddiogelu.

Pryd fyddwn ni’n rhannu’ch data

Gellir cael achlysuron pan fyddwn yn gorfod rhannu eich data gyda thrydydd parti. Byddwn ddim ond yn rhannu data gyda thrydydd parti os oes oblygiad cyfreithiol arnom i wneud hynny, er enghraifft, byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â chymdeithas dai

Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau

Mae llawer o hawliau gennych o ran eich data personol. Yn eu plith mae gweld pa ddata rydym yn ei gadw a diweddaru eich gwybodaeth.

 

Cysylltwch â Ni