Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Gweithiwr Gofal Cymdeithasol
Cyfeirnod y swydd: RE-1770
Cyflog: £25,584.00 - I: £27,711.00
Graddfa Swydd: Gradd 3 / Grade 3
Oriau Swyddi: 32 Awr / 32 Hours
Lleoliad: Cartrefi Gofal Cofrestredig Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful / MTCBC Registered Care Homes
Arbenigol:
Bydd oriau dan gontract yn cael eu gweithio'n hyblyg.
Oriau: 32 Aw
Cyflog: Gradd 3 SCP 7-12 = £25,584 - £27,711 y flwyddyn pro rata
32 Oriau = 86.48% = £22,125 - £23,964 y flwyddyn

Darparu gofal personol, cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl ag anghenion gofal a chymorth sydd wedi'u nodi, o fewn Cartref Gofal Cofrestredig.

Mae hwn yn cynnwys pobl hyn, pobl sydd â diagnosis o ddementia a/neu oedolion ag anabledd dysgu neu anabledd gorfforol mewn amgylchedd sy'n galluogi cefnogi a chynnal awyrgylch cartrefol gan sicrhau bod hawliau, urddas, amrywiaeth, annibyniaeth a lles unigolion yn cael eu hyrwyddo a'u cynnal.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Michael Palmer ar 01685 725000 neu ebostiwch Michael.Palmer@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 08.05.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.