Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Peiriannydd Dylunio Cynorthwyol
Cyfeirnod y swydd: RE-1775
Cyflog: £33,366.00 - I: £35,235.00
Graddfa Swydd: Gradd 6 / Grade 6
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Uned 5, Pentrebach, Merthyr Tudful / Unit 5, Pentrebach, Merthyr Tydfil
Arbenigol:
Mae hwn yn gyfle gwych i Beiriannydd Cynorthwyol / Graddedig ddatblygu sgiliau ac ennill profiad mewn Peirianneg Sifil. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar ystod o brosiectau sy'n gysylltiedig â draenio a bydd yn ymgymryd â rolau amrywiol o fewn yr adran. Bydd y rôl yn cynnwys dylunio'r cynlluniau newydd yn bennaf ynghyd ag arolygiadau, goruchwylio safle a rheoli prosiectau.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Carwyn Morris ar 01685 725000 neu ebostiwch Carwyn.Morris@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 22.05.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.