Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal x 2
Cyfeirnod y swydd: RE-1776
Cyflog: £40,476.00 - I: £45,718.00
Graddfa Swydd: Gradd 8 / Grade 8
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Swyddfeydd Dinesig Merthyr / Merthyr Civic Offices
Arbenigol:


Mae swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn y Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal, Gwasanaethau Plant yn cyflawni nifer o swyddogaethau a dyletswyddau statudol, gan gynnwys amddiffyn a diogelu plant yn unol â Deddf Plant (1989) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn cyd-gynhyrchu asesiadau cymesur a Chynlluniau Gofal a Chymorth gyda theuluoedd ac asiantaethau partner, yn cynhyrchu adroddiadau llys ac yn sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn derbyn cefnogaeth barhaol i gyflawni canlyniadau personol a phontio’n llwyddiannus i fyd oedolyn. Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn cynnal llwyth achosion yn cefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal, plant y mae eu henwau ar yr Rhestr Amddiffyn Plant. Mae'r swydd yn gofyn am rywfaint o waith llys i ymateb i geisiadau i'r llys am faterion fel cyswllt ac am resymau dirymu.

Bydd deiliad y swydd yn cynnal ymholiadau mewn perthynas â honiadau o gam-drin plant (Deddf Plant 1989 Adran 47) ac yn dilyn gweithdrefnau Diogelu Cwm Taf a gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.

Diogelu plant yn ein cymuned, gweithio gyda phlant/pobl ifanc a'u teuluoedd/gofalwyr i gyflawni canlyniadau lles personol.Cefnogi teuluoedd, mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol allweddol eraill, trwy newid a chyfeirio at wasanaethau o fewn y gymuned.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Steve Allen ar 01685 725000 neu ebostiwch Steve.Allen@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 22.05.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.