Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Cynorthwyydd Cymorth Dysgu – Lefel 3, Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa
Cyfeirnod y swydd: LS046-2725
Cyflog: £25,584.00 - I: £27,711.00
Graddfa Swydd: Grade 3 SCP7-12
Oriau Swyddi: 27.5 hours weekly
Lleoliad: Cyfarthfa Park Primary School
Arbenigol:
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu – Lefel 3
Graddfa 3 SCP7-12 £25,584 - £27,711 y flwyddyn pro rata
27.5 awr yr wythnos
65% of £25,584 = £16,629 y flwyddyn
Dros dro am ddau dymor - gan ddechrau dydd Llun Medi 1af 2025
Mae gennym swydd wag ar gyfer cynorthwyydd dosbarth brwdfrydig ac egnïol i ymuno â'n tîm Cyfnod Allweddol 2.
Bydd y Cynorthwyydd Cymorth Dysgu sydd newydd ei benodi yn gyfrifol am y canlynol:
•Cynllunio, paratoi a chyflwyno rhaglenni penodol o weithgareddau addysgu a dysgu i unigolion, grwpiau a dosbarthiadau gan addasu’r gweithgareddau yn ôl yr angen o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth gyffredinol yr athro neu’r athrawes.
•Asesu, cofnodi ac adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad
•Cysylltu â staff a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill a darparu gwybodaeth am ddisgyblion fel y bo'n briodol
•Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi addysg y disgyblion
•Cefnogi disgyblion gyda’u lles cymdeithasol ac emosiynol, gan roi gwybod am broblemau i'r athro/athrawes fel y bo'n briodol
•Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu cynlluniau datblygu unigol, ar y cyd â'r athro dosbarth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal â mynychu/cyfrannu at gyfarfodydd Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar y Person.
•Ymgymryd a gwaith Cynllunio, Paratoi ac Asesu a gwaith cyflewi mewn cyfnod o salwch byr-dymor pan fo angen
•Cefnogi rôl y rhieni/gofalwyr o fewn addysg y disgyblion a chyfrannu at gyfarfodydd gyda rhieni/gofalwyr i ddarparu adborth adeiladol ar gynnydd/cyflawniad disgyblion ac ati.
•Disgwylir i Gynorthwywyr Cymorth Dysgu ar y lefel hon ymgymryd â'r canlynol:
?Darparu cymorth i ddisgyblion ag anawsterau dysgu, ymddygiadol, cyfathrebu, cymdeithasol, synhwyraidd neu gorfforol
?Darparu cymorth i ddisgyblion lle nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf
?Darparu cymorth i ddisgyblion mwy abl a thalentog

Ceisiadau i'w cwblhau erbyn – hanner dydd dydd Gwener Mehefin 6ed 2025.
Rhestr fer – Wythnos yn dechrau Mehefin 9fed 2025.
Dyddiadau’r Cyfweliadau – I'w cadarnhau
Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, gallwch gael gafael ar ffurflen gais drwy ffonio 01685 725199 a’i dychwelyd nid hwyrach na hanner dydd Mehefin 6ed 2025 i Adnoddau Dynol/ HR Administration, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN
E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Rydym yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt na'r dyddiad cau.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed o fewn ein cymuned. Cyflawnir gwiriadau cyflogaeth trwyadl ar gyfer pob un penodiad fel rhan o’n proses recriwtio a dethol.

Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio gyda’u cyfrifoldebau unigol a chyfrifoldebau’r sefydliad yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth ac unrhyw bolisïau gweithredol perthnasol eraill sy’n cefnogi’r rhain. Ni ddylai unrhyw fater o natur gyfrinachol gael eu datgelu na’u rhannu gydag unrhyw un anawdurdodedig na chwaith eu rhannu gyda thrydydd parti ar unrhyw amod, nid yn ystod cyfnod y swydd na chwaith wedi i’r swydd ddod i ben heblaw yn ôl y drefn briodol o fewn eich swydd neu fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Gallai tor-cyfrinachedd arwain at orchymyn disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth o fewn ein gweithlu ac ystyriwn ein hunan fel Cyflogwr Delfrydol, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb mewn i bob elfen o’n gwaith. Croesawn ffurflenni cais gan bawb ac anogwn ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i ymgeisio ac i ymuno â ni ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.