Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Gweithiwr Domestig Gofal Nos
Cyfeirnod y swydd: RE-1997
Cyflog: £27,274.00 - I: £29,542.00
Graddfa Swydd: Gradd 3 / Grade 3
Oriau Swyddi: 20 Awr / 20 Hours
Lleoliad: Cartrefi Preswyl CBSMT / MTCBC Residential Homes
Arbenigol:
Dosbarth 3 / SCP 7-12 = £27,274 - £29,542 y flwyddyn
yn gyfrannol

20 Awr = 54.05%

= £14,741 - £15,967 y flwyddyn

Fel Gweithiwr Domestig Gofal Nos yn Nhy Bargoed Newydd, byddwch yn ymuno â thîm gofal preswyl cefnogol sydd wedi ymrwymo i helpu pobl i deimlo'n ddiogel, yn cael eu parchu ac yn gartrefol. Byddwch yn darparu gofal a chymorth ymarferol sy'n canolbwyntio ar y person, yn ymateb i anghenion unigol, yn cynorthwyo gyda gofal personol a meddyginiaeth lle bo angen, yn cwblhau dyletswyddau domestig hanfodol, ac yn helpu i gynnal amgylchedd diogel a chroesawgar trwy gydol y nos.

Mae'r rôl amrywiol hon yn cynnig y cyfle i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol, hyrwyddo annibyniaeth a lles, a chyfrannu at ganlyniadau ystyrlon i bobl hyn gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda dementia. Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, gyda mynediad at hyfforddiant, goruchwyliaeth a datblygiad proffesiynol parhaus perthnasol, gan gynnwys cymorth i gyflawni'r cymhwyster gofal gofynnol a chynnal cofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru.

Rydym yn chwilio am rywun gofalgar, dibynadwy a hyblyg sy'n cyfathrebu'n dda, yn gwerthfawrogi gwaith tîm ac yn ymfalchïo mewn darparu cymorth o ansawdd uchel. Os ydych chi eisiau rôl werth chweil lle mae eich cyfraniad yn cael ei gydnabod a lle gall pob shifft wneud gwahaniaeth, byddem yn croesawu eich cais.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Zoe Turner ar 01685 725000 neu ebostiwch Zoe.Turner@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 29.10.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.