Ar-lein, Mae'n arbed amser
Pobl ifanc 16–17-oed a gwladolion tramor yn cael eu hannog i bleidleisio yn etholiadau y flwyddyn nesaf
- Categorïau : Press Release
- 06 Rhag 2021

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog pobl ifanc 16-17 oed a gwladolion tramor i gofrestru i ethol a phleidleisio er mwyn lleisio barn am ddyfodol y Fwrdeistref Sirol, yn dilyn newid rheolau.
Mewn arolwg yn 2021, dim ond 491 (38.94%) o bobl ifanc 16 - 17- oed oedd wedi cofrestru I bleidleisio ym Merthyr Tudful. Mae hwn y nifer isel iawn, a hoffai’r Cyngor ei weld yn newid.
Mae CBSMT yn credu’n gryf bod pobl ifanc a gwladolion tramor yn lleisio barn ac eisiau i’r nifer sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn cynyddu erbyn yr etholiadau'r flwyddyn nesaf.Mae’n hynod bwysig bod safbwyntiau amrywiol yn dylanwadu ar yr etholiad er mwyn siapio penderfyniadau o fewn y Fwrdeistref Sirol.
Trwy bleidleisio, gall pobl ifanc a gwladolion tramor leisio barn yn hyderus am y materion sydd o bwys iddynt nawr ac yn eu dyfodol yn y Fwrdeistref Sirol.
Dywedodd CBSMT: “credwn ei bod yn bwysig iawn bod pobl ifanc 16-17-oed a gwladolion tramor yn cael llais yn y penderfyniadau rydym yn gwneud yn y Cyngor. Mae pobl ifanc yn cael eu heffeithio gan ein penderfyniadau yn y Cyngor yn yr un modd ag oedolion, felly mae cael y cyfle i bleidleisio dros rywun sydd wedi siarad yn bersonol â nhw yn bwysig iawn er mwyn cynyddu ymddiriedaeth ac i gael eu clywed fel preswylwyr. Mae gan wladolion tramor, yn yr un modd, lais yn eu cymunedau a’r un hawliau i leisio a siapio penderfyniadau ar draws y Fwrdeistref”.
Gyda rheolau newydd bellach mewn lle sy’n galluogi pobl ifanc 16-17-oed i bleidleisio mewn etholiadau lleol, mae CBSMT yn awyddus i’w hannog i gofrestru ar y gofrestr etholwyr trwy ymweld â: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio