Ar-lein, Mae'n arbed amser

200 o dai newydd yn dod i Ferthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Hyd 2023
default.jpg

Mae cronfa buddsoddi mewn tai Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn dod â 200 o gartrefi newydd y mae mawr eu hangen i ardal Abercanaid ym Merthyr Tudful.

Lansiwyd y Gronfa Fwlch Hyfywedd Tai gwerth £35m yn 2021 gan CCR i ysgogi’r farchnad dai drwy helpu i ddatgloi safleoedd tai a oedd wedi’u hatal yn flaenorol ar draws y rhanbarth.

Mae £3.5m o'r gronfa wedi'i sicrhau ar gyfer Parc y Ddraig, Merthyr Tudful, ar gyfer gwaith gan gynnwys adfer tir a seilwaith datblygu cysylltiedig. Bydd y gwaith hwn yn datgloi 200 o unedau, a bydd hyd at 20% ohonynt yn gartrefi fforddiadwy.

Bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau ar y safle erbyn mis Tachwedd 2024 a disgwylir i'r tai gael eu codi erbyn Rhagfyr 2028. Bydd gwaith adfer yn dechrau ar y safle ym mis Hydref 2023.

Mae’r datblygwr, Davies Homes Ltd, yn gwmni adeiladu tai teuluol a sefydlwyd gan Michael Davies yn 1986. Ers hynny, mae wedi adeiladu dros 2,500 o gartrefi, yn bennaf yng Nghymoedd De Cymru. Maent yn arbenigo mewn safleoedd tir llwyd lle mae cloddfeydd yn y gorffennol yn gyffredin.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’r cyllid hwn yn fuddsoddiad i’w groesawu’n fawr ym Merthyr Tudful a bydd yn dod â chartrefi mawr eu hangen i’r ardal.

"Bydd y brif fynedfa i’r safle o’r de trwy’r gylchfan bresennol wedi’i huwchraddio a bydd ffordd yn mynd o amgylch “man agored aml ddefnydd” sydd i’w ddefnyddio ar gyfer hamdden, chwarae a draenio cynaliadwy ac mae Davies Homes hefyd yn anelu at gyflwyno cynefinoedd bioamrywiaeth newydd.

"Bydd digon o fannau agored ar y safle ynghyd â llwybrau teithio llesol, gan gynnwys llwybr ar gyfer beicwyr a cherddwyr.”

Dywedodd Matthew Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Davies Homes: “Mae’r cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar safle Parc y Ddraig wedi bod yn hynod gadarnhaol a bydd yn caniatáu i ni adeiladu’r cartrefi newydd gwych hyn yn Abercanaid.

"Mae’r bartneriaeth adeiladol gyda’r Cyngor a CCR wedi’i chynnal drwyddi draw, gan roi’r cyfle i ni ddatgloi safle tir llwyd a dod â datblygiad preswyl cyffrous arall ymlaen ym Merthyr Tudful.

"Rydym yn hyderus y bydd y datblygiad yn llwyddiant mawr ac edrychwn ymlaen at gyflwyno’r cynllun hwn a pharhau â’n partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni